Prif Weinidog yn cyhoeddi Cabinet newydd Llywodraeth Cymru
Yn dilyn ei benodiad yn Brif Weinidog Cymru, mae Carwyn Jones AC wedi cyhoeddi aelodau cabinet newydd Llywodraeth Cymru.
Mae'r brîff tai yn dychwelyd i Carl Sargeant AC dan bortffolio newydd Cymunedau a Phlant.
Mae'r Cabinet llawn fel sy'n dilyn:
- Kirsty Williams AC (Dem Rh, Brycheiniog a Maesyfed) – Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
- Lesley Griffiths AC (Llaf, Wrecsam) – Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
- Carl Sargeant AC (Llaf, Alyn a Glannau Dyfrdwy) – Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
- Ken Skates AC (Llaf, De Clwyd) – Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith
- Vaughan Gething AC (Llaf, De Caerdydd a Phenarth) – Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon
- Mark Drakeford AC (Llaf, Gorllewin Caerdydd) – Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
- Jane Hutt AC (Llaf, Bro Morgannwg) – Arweinydd y Tŷ a Phrif Chwip
- Julie James (Llaf, Gorllewin Abertawe) – Y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth
- Alun Davies AC (Llaf, Blaenau Gwent) – Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
- Rebecca Evans AC (Llaf, Gŵyr) - Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithas
Bydd angen i benodiad Kirsty Williams AC fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg gael ei gadarnhau gan gynhadledd arbennig o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru yfory ac nid yw'n golygu cytundeb clymblaid, yn ôl y Prif Weinidog.
Yn ôl datganiad gan y Democratiaid Rhyddfrydol, daeth Kirsty Williams a'r Prif Weinidog i Gytundeb Blaengar rhwng y ddwy blaid i gydweithio mewn llywodraeth. Mae'r cytundeb yn galluogi gweithredu blaenoriaethau polisi allweddol Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, yn cynnwys dau bolisi tai, i sicrhau:
- cyllido 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol;
- cyflwyno model tai newydd 'Rhentu i Berchen'.
Dywedodd Aaron Hill, Rheolydd Materion Cyhoeddus Cartrefi Cymunedol Cymru: "Rydym yn croesawu Carl Sargeant AC yn ôl i'r briff Tai. Cawsom berthynas gynhyrchiol gydag ef pan oedd yn Weinidog Tai ac Adfywio yn flaenorol, gan lofnodi cytundeb cyflenwi tai i gynyddu nifer y cartrefi fforddiadwy ar draws Cymru. Rhagorodd cymdeithasau tai ar y targed blaenorol o 10,000 ac mae'r sector yn barod ar gyfer her cyflawni mwy.
Cefnogodd yr holl bleidiau yn y Cabinet ymgyrch Cartrefi i Gymru yn y cyfnod cyn yr etholiad ac mae'n wych gweld gweithio trawsbleidiol ar faterion cyffredin fel tai. Gobeithiwn y bydd hyn yn trosi'n gynllun uchelgeisiol ar gyfer tai yn y rhaglen newydd ar gyfer llywodraethu sy'n diogelu annibyniaeth cymdeithasau tai ac yn ein galluogi i barhau i ddarparu mwy o gartrefi ar gyfer pobl Cymru."