Jump to content

02 Mai 2018

Prentisiaid yn hanfodol i gwrdd â heriau yn y dyfodol

Prentisiaid yn hanfodol i gwrdd â heriau yn y dyfodol
Mae Wales & West Utilities yn chwarae rhan hanfodol mewn cymunedau ledled Cymru a de orllewin Lloegr. O Wrecsam i Redruth, mae’n 1400 o gydweithwyr yn ymateb i argyfyngau nwy, yn cysylltu cartrefi newydd i’r rhwydwaith nwy ac yn uwchraddio hen bibelli nwy i rai plastig newydd i gadw’r nwy yn llifo ar gyfer cynhesu cartrefi a darparu pŵer i fusnesau. Ac fel y gallwn gyflenwi ar gyfer y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu, mae’n hanfodol fod gennym y tîm iawn i wneud eu gwaith.


Dechreuom weithredu fel rhwydwaith nwy annibynnol yn 2005. Cyn hynny roeddem wedi bod yn rhan o National Grid. Fe etifeddon ni dîm oedd wedi cael ei esgeuluso o ran datblygu a hyfforddi, tra bod cynllunio o’r naill genhedlaeth i’r llall wedi peidio â bod. Yn fuan iawn roedden ni wedi datblygu Strategaeth Pobl fel y gallem nid yn unig gadw’n busnes i fynd o ddydd i ddydd ond hefyd baratoi ar gyfer heriau’r dyfodol. Mae prentisiaid yn elfen hanfodol o’r strategaeth honno, ac ers 2005 rydym wedi recriwtio may na 160 o’r rhain. Eisoes mae rhai o’r prentisiaid a recriwtiwyd gennym yn ystod ein ychydig flynyddoedd cyntaf o weithredu yn arweinwyr allweddol ar draws ein rolau busnes.


Mae’n prentisiaethau wedi eu cynllunio i gwrdd ag anghenion ein cwsmeriaid ar draws tair proses weithredol: Gwasanaethau Argyfwng, sy’n ymateb i argyfyngau, ein timoedd Adeiladu a Thrwsio, sy’n cynnal y rhwydwaith nwy ac yn gosod cysylltiadau newydd i gartrefi a busnesau, a Gwasanaethau Rhwydwaith, sy’n cynnal system reoli’r rhwydwaith nwy. Ond tra bod ein prentisiaid yn cael eu recriwtio ar gyfer rolau digon confensiynol, rydym wedi ceisio bod yn arloesol wrth benderfynu pwy i’w dewis i lenwi’r swyddi.


Fel cwmni, ein nod yw ennill ymddiriedaeth a gwerthfawrogiad y miliynau o bobl yr ydym yn eu gwasanaethau bob dydd. Yr unig ffordd y gallwn wneud hyn yw rhoi pobl wrth galon popeth a wnawn - boed y rheiny’n gydweithwyr neu gwsmeriaid. Mae’n bwysig felly bod ein cydweithwyr yn gynrychioliadol o’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.


Er mai dynion, yn draddodiadol, sydd wedi bod yn tra-arglwyddiaethu yn y diwydiant nwy, rydym wedi ennill llawer o dir o ran hybu amrywiaeth. Mae’n prentisiaid yn chwarae rhan yn hyn. Rydym yn anelu’n hymgyrchoedd recriwtio at bobl na fydden nhw’r meddwl fel arfer m fod yn beirianwyr nwy, gan gynnwys merched. Mae’n Hadroddiad Cyflog y Rhywiau diweddar - gyda chanolrif bwlch cyflog o -4%, yn dystiolaeth o lwyddiant y dull hwn o weithredu er ein bod yn gwybod fod yna bob amser fwy y gallwn ei wneud.


Rydym hefyd wedi cael gwared â chymwysterau academaidd ble nad oes eu hangen, a thra bod rhai llwybrau prentisiaeth yn gofyn am TGAU, rydym yn cydnabod nad yw cymwysterau academaidd yn addas i bawb. Yn lle hynny rydym nawr yn recriwtio ar sail ein gwerthoedd busnes o roi cwsmeriaid yn gyntaf, gan ymfalchïo mewn gweithio fel tîm a dod ag egni i bopeth a wnawn. Ein hegwyddor yw os ewch chi ati i wneud pethau yn y ffordd iawn, fe allwn ni ddysgu popeth i chi y byddwch angen ei wybod am beirianneg nwy.


Mae’r dull hwn o recriwtio, yn cael ei atgyfnerthu gan ein hagwedd gynhwysol a moesegol tuag at fusnes, yn ogystal â rhaglenni wedi eu datblygu’n bendant ar gyfer datblygu cydweithwyr, yn helpu pawb yn Wales & West Utilities i deimlo’u bod yn perthyn ac y gallan nhw wneud y gorau o’u gallu, waeth beth fo’u rhyw, oed, anabledd neu ogwydd rhywiol.


Dyw’r dull hwn ddim wedi bod heb ei heriau, yn enwedig ar y dechrau, ond bu’n werth chweil, ac mae’n perfformiad busnes yn dystiolaeth o’i lwyddiant. Ni yw’r cwmni cyfleustodau sy’n perfformio orau yn y Deyrnas Unedig am wasanaeth i gwsmeriaid: rhoddodd y Sefydliad Gwasanaeth Cwsmeriaid ServiceMark lefel rhagoriaeth i ni, a dyfarnodd Buddsoddwyr Mewn Pobl achrediad Arian i ni - gan danlinellu’n hymrwymiad i berfformio’n uchel trwy reoli pobl yn dda. Yn ogystal â’n cydnabyddiaeth annibynnol, mae’r ffaith fod ein graddfa llwyddiant o ran cadw cydweithwyr a ymunodd fel prentisiaid yn uwch na 90% yn awgrymu fod ein recriwtio, seiliedig ar ddiwylliant cryf o roi pobl yn gyntaf, yn golygu’n bod nid yn unig yn cyflogi’r bobl iawn - maen nhw hefyd yn penderfynu aros ac adeiladu gyrfa.


Mae recriwtio prentisiaid wedi ffurfio rhan allweddol o’n strategaeth nid yn unig o ran darparu ar gyfer cwsmeriaid heddiw, ond hefyd i wynebu heriau’r dyfodol. Wrth i’r system ynni fynd trwy newid na welwyd ei debyg, gyda mwy o ynni adnewyddadwy yn cael ei ategu gan nwy a rhwydweithiau nwy, maen nhw’n ein helpu i ddal i gyflenwi ar gyfer y cymunedau’r ydym yn eu gwasanaethu, a gwneud ein cwmni’n lle deinamig, cyffrous ac arloesol i weithio.


Mae Rhiannon Williams yn Gydlynydd Hyfforddiant Technegol gyda Wales & West Utilities