Jump to content

10 Hydref 2018

Portread o Adam Price

Portread o Adam Price
Y penwythnos diwethaf fe welwyd Plaid Cymru’n ethol Adam Price, Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn arweinydd, y drydedd blaid yn y Cynulliad i ethol arweinydd newydd eleni. Trechodd Adam Price yr arweinydd blaenorol Leanne Wood a Rhun ap Iorwerth gan ennill 49.7% o bleidleisiau dewis cyntaf, ychydig yn brin o’r 50% angenrheidiol. Golygai hynny fod Leanne Wood yn gadael y ras a phleidleisiau ail ddewis ei chefnogwyr yn cael eu hail ddosbarthu. Rhoddodd hynny 618 ychwanegol o bleidleisiau i Adam Price, gyda’r canlyniad iddo drechu Rhun ap Iorwerth o 3,481 pleidlais i 1,961.


Dim ond ers 2016 y mae Adam Price yn Aelod Cynulliad, ond bu’n Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr rhwng 2001 a 2010, gan ddod yn enwog am ei ymgais i uchel-gyhuddo Tony Blair ynglŷn â rhyfel Iraq. Yn San Steffan a’r Cynulliad fel ei gilydd bu Adam Price yn areithydd hyderus. Gydag un sylwebydd yn ei ddisgrifio’r wythnos diwethaf fel “peiriant syniadau”, bydd llawer wedi croesawu’r fuddugoliaeth i ddyn a fu’n cael ei weld ers blynyddoedd fel arweinydd yn disgwyl ei gyfle.


Tra bod Adam Price wedi crybwyll Cartrefi Cymunedol Cymru sawl gwaith yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf yng nghyfarfodydd llawn y Cynulliad, nid yw ei gyfrifoldebau llefarydd wedi caniatáu iddo dreulio llawer o amser ar fater tai er pan ymunodd â'r Cynulliad. Fodd bynnag roedd lle blaenllaw i isadeiledd yn Cymru 2030, ei gynllun 10 pwynt ar gyfer economi Cymru, asgwrn cefn ei ymgyrch arweinyddol. Roedd hwnnw’n cynnwys cynigion diddorol i sefydlu asiantaeth adeiladu tai genedlaethol a fyddai’n dod ag awdurdodau lleol lleol, cymdeithasau tai a’r sector preifat at ei gilydd i hybu adeiladu tai. Gyda chydweithredu yn rhan allweddol o’n hymateb i’r Adolygiad o Gyflenwad Tai Fforddiadwy yng Nghymru, rwy’n siŵr y bydd yna dir cyffredin ynghylch yr angen i godi’r tai angenrheidiol i wneud cartrefi da yn hawl sylfaenol i bawb.


Yn ogystal â hyn, bu Adam hefyd yn cydweithio’n agos gyda CHC yn ystod ei gofnod saib o wleidyddiaeth rheng flaen yn ei waith ar The Collective Entrepreneur. Noddwyd y cyhoeddiad hwnnw gennym ni ynghyd â’r Banc Elusen (The Charity Bank), a galwai ar i Lywodraeth Cymru hyrwyddo gwerthoedd cymdeithasol mewn busnes a rhyddhau potensial mentrau cymdeithasol.


Y cwestiwn mawr i Adam Price ar ôl ei fuddugoliaeth yw a fydd yn barod i fynd â’i blaid i glymblaid gyda’r Ceidwadwyr os gallai hynny atal Llywodraeth Lafur arall yng Nghymru. Gwrthododd yr awgrym hwnnw’n blwmp ac yn blaen yn ystod ei ymgyrch (yn wahanol i’w gystadleuydd Rhun ap Iorwerth), gan ddweud na fyddai’n ffurfiol clymblaid gyda’r Ceidwadwyr na Llafur Cymru. Awgrymodd “fod rhaid i Blaid Cymru ennill” gan mai annibyniaeth i Gymru yw’r nod yn y pen draw ac mai nhw yw’r unig blaid gyda hynny’n rhan o’u gweledigaeth.