Jump to content

09 Medi 2018

Pontio'r cenedlaethau

Pontio'r cenedlaethau
Enillodd Grŵp Cynefin wobr bwysig yn ddiweddar am ei waith arloesol yn mynd i'r afael ag unigrwydd ymhlith pobl oedrannus.


Ers datblygu rhaglenni rhyng-genhedlaeth yn dod â phobl ifanc a'r henoed ynghyd, canmolwyd gwaith Grŵp Cynefin gyda phreswylwyr yn dweud eu bod yn hapusach, yn fwy hyderus ac yn llai unig ar ôl cymryd rhan yn y cynllun.





Mae Olwen Griffiths, un o'r preswylwyr, yn edrych ymlaen at yr ymweliadau. Dywedodd, "Mae'n hyfryd eu gweld nhw. Maen nhw mor fywiog ac maen nhw'n cyfathrebu'n dda iawn gyda ni a rydyn ni'n mwynhau siarad gyda nhw. Maen nhw'n ymddwyn yn ardderchog, a rydyn ni'n gwerthfawrogi eu bod nhw'n gallu ymweld. Mae'n codi fy nghalon bob tro maen nhw'n dod yma".


Dechreuodd y rhaglen gyda phreswylwyr Awel y Coleg yn dod at ei gilydd gyda disgyblion o Ysgol Bro Tryweryn yn y Bala ac yn mwynhau darganfod eu talentau cerddorol drwy sesiynau rhyngweithiol dan arweiniad cerddorion proffesiynol.


Ar ôl llwyddiant y rhaglen gyntaf, trefnodd Grŵp Cynefin bod disgyblion Ysgol Pen Barras yn Rhuthun yn ymweld â chartrefi lleol i ddarllen llyfrau, dawnsio, a gwneud celf a chrefft ochr yn ochr â‘r tenantiaid oedrannus.


Dywedodd Mavis Johns wrthym, "Rwyf wrth fy modd gyda'r ymweliadau a siarad gyda nhw a'r ffordd maen nhw'n mwynhau gwneud pethau i ni. Maen nhw gymaint o ddifri wrth ein dysgu sut i wneud pethau. Mae'n hyfryd cael cysylltiad gyda nhw."


Pontio’r cenedlaethau oedd thema diwrnod tenantiaid hŷn Grŵp Cynefin ym mis Ebrill 2018 hefyd. Mynychodd plant o Ysgol Dewi Sant ac Ysgol Glan Morfa y digwyddiad i gymryd rhan mewn gweithgareddau dawnsio gwerin, canu, celf a chrefft.


Archebwch eich tocyn am y Cynhadledd Flynyddol yma