Jump to content

13 Medi 2018

Paul Davies yn ennill ras arweinyddiaeth y Ceidwadwyr

Paul Davies yn ennill ras arweinyddiaeth y Ceidwadwyr
Georgina Shackell-Green, Cynorthwyydd Materion Cyhoeddus, sydd yn cyflwyno'r Arweinydd Ceidwadol newydd, Paul Davies.


Ar ôl ychydig dros ddau fis fel arweinydd dros dro y Ceidwadwyr Cymreig, yr wythnos ddiwethaf cafodd Paul Davies ei ethol yn swyddogol i arwain y blaid yn y Cynulliad. Cymerodd 52% o aelodau'r blaid ran yn yr etholiad, gyda Paul Davies yn ennill 68% o'r pleidleisiau gan drechu Suzy Davies yr ymgeisydd arall gan dros 50%.


Fel Dirprwy Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ers 2001, roedd Paul Davies wedi sefyll fel arweinydd interim Ceidwadwyr Cymru ers i Andrew RT Davies gamu lawr ddechrau'r haf. Bu Paul Davies yn Aelod Cynulliad Preseli Sir Benfro ers 2007 ar ôl cael ei ethol yr ail dro iddo sefyll. Cyn hynny, bu'n gweithio i Lloyds TSB am ugain mlynedd. Mae hefyd wedi ceisio'n aflwyddiannus ddwywaith i gael ei ethol i San Steffan, unwaith mewn is-etholiad yn 2000 yna wedyn yn yr etholiad cyffredinol y flwyddyn ddilynol.


Roedd yn ras arweinyddiaeth ryfeddol o gyfeillgar rhwng Paul Davies a Suzy Davies, heb ddim o'r drwgdeimlad neu falais a welwyd mewn gornestau arweinyddiaeth eraill ym Mhrydain mewn blynyddoedd diweddar. Efallai mai'r foment fwyaf dadleuol oedd pan bleidleisiodd y Llefarydd Tai David Melding i Paul, er iddo enwebu Suzy Davies. Y sôn yw ei bod hi'n gwybod ei fod yn cefnogi Paul a'i fod wedi ei henwebu gan y credai bod yn bwysig cynnal etholiad. Fe wnaeth hyd yn oed Byron Davies, cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig, sylw ar hyn wrth iddo gyhoeddi enw'r enillydd newydd gan ddweud nad oedd ymgyrchoedd yr ymgeiswyr wedi achosi "dim problem o gwbl" iddo. Fe wnaeth Paul Davis ei hunan drydaru cyn y cyhoeddiad yn diolch i'w gystadleuydd Suzy Davies a'i thîm am yr ornest gwrtais a fu, gan addunedu y byddent yn parhau'n ffrindiau beth bynnag ddigwyddai. Ategodd hithau hynny yn dilyn ei benodiad, gan drydaru eu bod yn "dal i fod ar yr un ochr'" (a all gyfeirio at eu safbwyntiau tebyg ar nifer o feysydd polisi fel y Gymraeg, dyfodol y Cynulliad (heb fod yn annisgwyl, mae'r ddau'n credu y dylai barhau) a Brexit (mae'r ddau yn credu fod yn rhaid mynd ag â'r maen i'r wal, er bod Paul Davies wedi cefnogi'r ymgyrch Aros). Efallai y caiff le yn ei gabinet cysgodol o fewn y Cynulliad?


Yng nghyswllt tai, mae Paul Davies wedi cyfrannu'n achlysurol at ddadleuon ar y materion cysylltiedig yn ystod sesiynau llawn. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno dadl y llynedd yn cynnig fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn "cydnabod fod sicrwydd cartref, gofal iechyd, addysg a bod yn ddiogel adre, yn ddiogel yn yr ysgol ac yn y gymuned yn adeiladu'r sylfaen ar gyfer datblygiad iach plant", ethos sy'n eistedd yn agos gyda gweledigaeth Gorwelion Tai.


Yn ôl yn 2007, siaradodd Paul Davies yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Tai Sir Benfro yn dynodi cynllunio a diffyg tai fforddiadwy fel dau o'r materion allweddol y mae'n ystyried eu bod yn effeithio ar ei etholaeth, gan fynegi ei gefnogaeth i gynllun Cymorth Prynu Llywodraeth Cymru. Fe wnaeth hefyd leisio dymuniad i ganolbwyntio ar adfywio, yn hytrach nag adeiladu datblygiadau mawr newydd.


Gallai parodrwydd i gynnig pleidlais i aelodau'r Blaid ar p'un ai a fyddent yn barod i ffurfio clymblaid gyda Phlaid Cymru (sydd hefyd yn ethol arweinydd yn yr wythnosau nesaf) fod yn ganlyniad arwyddocaol i ethol Paul Davies. Er fod yr arweinydd presennol Leanne Wood yn parhau'n bendant na fyddai byth yn clymbleidio gyda'r Ceidwadwyr Cymreig, ac Adam Price hefyd o'r un farn. Mae Rhun ap Iorwerth wedi mynegi parodrwydd i ystyried hyn pe byddai'n cael ei ethol. Pe byddai aelodau'r Ceidwadwyr Cymreig yn penderfynu y byddent yn hapus i hyn ddigwydd, efallai y gallai arwain at bryderon i Lafur yn etholiadau 2021 a newid enfawr ar gyfer y Cynulliad yng Nghymru, sef yn union yr hyn oedd yr etholiadau arweinyddol hyn yn anelu ei wneud.


Darllenwch fwy am yr etholiadau Cymreig yng Nghrynodeb Georgina yma.