Jump to content

05 Medi 2019

Pam trawsnewid ein busnesau?

Pam trawsnewid ein busnesau?
Ar 13 Medi bydd Paul Matthews, Prif Weithredydd Cyngor Sir Fynwy, yn ymuno â ni i arwain gweithdy sy'n anelu i osod gweledigaeth ein sefydliad a dynodi pam fod angen i ni newid. Bydd yn dweud wrthym sut y gwnaeth dynodi'r 'pam' helpu Cyngor Sir Fynwy ar hyd eu taith trawsnewid:


"Fe wnaethom ddechrau ar ein taith trawsnewid 7 mlynedd yn ôl wrth i ni barhau i ganfod ffyrdd newydd i sicrhau ein bod yn parhau'n berthnasol, hyfyw ac egnïol mewn cyfnod heriol. Mae'n wirioneddol gyffrous arwain sefydliad sy'n ymdrechu am ragoriaeth yn y pethau a wnawn.


Rydym wedi canolbwyntio ein dull gweithredu ar fywiogi cymunedau, a'u cael i gymryd rhan gydag arwain prosiectau drostynt eu hunain. Rydym bob amser wedi bod yn glir fod uchelgais, creadigrwydd ac arloesedd yn ganolog i'n gwerthoedd ac dylai'r rhain gael eu dathlu.


Mae gennym lawer i'w ddysgu fel sefydliad serch hynny. Nid wyf yn credu y gall unrhyw sefydliad redeg allan o broblemau i'w datrys, felly mae'n rhaid i greu diwylliant a set o fathau ymddygiad y gellir galw arnynt unrhyw amser fod yn flaenoriaeth. Mae rhan o'n taith wedi golygu rhwydweithio mwy, profi ffyrdd newydd i wrando a chynnwys pobl, a buddsoddi'n sylweddol yn ein tîm.


Mae'r tîm yng Nghyngor Sir Fynwy wedi dod yn fwy dewr a mwy beiddgar fel canlyniad, a rydym bob amser yn edrych am bobl gwych talentog a gydag agwedd ragorol i ymuno â'n tîm, sy'n barod i gael eu hymestyn i'w heithaf."


Archebwch eich lle ar gyfer ein Gweithdy Trawsnewid Busnes cyntaf, Beth yw eich gweledigaeth, yma.