Jump to content

01 Awst 2018

Pam fod Materion Tai Cymru yn bwysig?

Pam fod Materion Tai Cymru yn bwysig?
Dyma Joe Frampton, Swyddog Polisi, yn esbonio pam ei bod yn hanfodol codi twrw ar Ddiwrnod Gweithredu Materion Tai Cymru ddydd Gwener.


Gyda dim ond pedwar diwrnod i fynd tan y Diwrnod Gweithredu Materion Tai ar draws Cymru, mae hwn yn gystal amser ag unrhyw un i rannu fy sylwadau ar Cefnogi Pobl a'r ymgyrch Materion Tai.


Mae cynnig i uno cyllid Cefnogi Pobl gyda naw grant arall i ffurfio'r grant Ymyriad Cynnar: Atal a Chymorth (EIPS). Mae hyn yn codi pryder gan y gallai cyllid hyblyg olygu y caiff arian Cefnogi Pobl ei wario ar brosiectau tu allan i ddigartrefedd a chymorth cysylltiedig â thai. Heb ffocws cryf a chlustnodi arian, fel y gwelsom yn Lloegr cafodd cyllidebau Cefnogi Pobl eu gwanhau ac felly bu lleihad mewn gwasanaethau rheng flaen.


Mae adroddiad Materion Tai, a ddatblygwyd gan CHC, Cymorth Cymru ac wyth o sefydliadau cenedlaethol tai a chymorth eraill, yn cynnig datrysiad amgen. Yn lle grant arfaethedig EIPS, rydym yn cynnig dwy ffrwd grantiau, gydag un yn cyfuno pedwar grant cysylltiedig â thai yn cynnwys Cefnogi Pobl i fod yn grant cymorth digartrefedd a chysylltiedig â thai. Rwy'n credu ei fod yn gyfaddawd teg sy'n dal i alluogi Llywodraeth Cymru i symleiddio'r grantiau niferus sydd ganddynt i'w gweinyddu tra'n cynnal ffocws clir ar ddigartrefedd a thai.


Pam fod angen i ni ddiogelu'r rhaglen Cefnogi Pobl?


Y llynedd, ysgrifennodd fy nghydweithwraig Rebecca am yr effaith gadarnhaol a gafodd Cefnogi Pobl ar fywydau pobl, yn cynnwys Ashley a gefnogir gan Dŷ Nightingale Cymdeithas Tai Cadwyn.


Mae Cefnogi Pobl yn darparu cymorth cysylltiedig â thai i 60,000 o bobl yng Nghymru. Drwy'r gronfa, mae pobl yn cynnwys y rhai sydd wedi profi cam-driniaeth, sy'n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl neu sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau yn medru'n byw'n annibynnol gyda help o'r gefnogaeth a gynigir.


Gwyddom fod darparu cartref diogel a chadarn i bobl yn helpu i atal cam-drin domestig, yn gostwng aildroseddu a chamddefnyddio sylweddau. Mae'n cefnogi pobl sy'n aml ar y cyrion i gael ail-fynediad i addysg, gwirfoddoli, hyfforddiant a chyfleoedd gwaith, a drwy eu mentrau cymdeithasol eu hunain.


Mae pob £1 a fuddsoddir yn Cefnogi Pobl yn sicrhau arbedion o £2.30 i sectorau eraill fel tai, iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau diogelwch y gymuned.


Yn gryno, mae'n galluogi pobl i wella eu bywydau.


Dyna pam fod y Diwrnod Gweithredu mor bwysig


Dyma'ch cyfle i ddweud wrth y rhai sydd yng ngofal llinynnau'r pwrs am rôl gwasanaethau a gyllidir gan Cefnogi Pobl wrth rymuso pobl i fyw'n annibynnol. Dyma'n cyfle i ddangos iddynt y prosiectau pwysig sy'n newid eu bywydau y gellid eu torri pe byddai cyllid yn cael ei wanhau, neu ei golli, a'r straen dilynol y byddai hyn yn ei roi ar wasanaethau eraill.


Dyma ychydig o syniadau i gymryd rhan ynddynt yr wythnos yma:
  • Ysgrifennu at eich Aelodau Cynulliad lleol a rhanbarthol; dweud wrthynt am eich cynlluniau a'ch prosiectau - a'ch gwahodd draw i weld o amgylch! Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod am beth maen nhw'n pleidleisio pan ddaw i uno grantiau

  • Bod mor uchel ac mor egnïol ag y gallwch ar y cyfryngau cymdeithasol; rhannu lluniau, fideos a straeon am eich cynlluniau a'r bobl a gefnogwyd ganddynt

  • Rhannu straeon gyda'ch papurau newydd lleol - gall straeon am bobl go iawn ddod â beth mae'ch prosiect yn ei wneud i gymunedau lleol yn fyw

  • Defnyddio hashnod #housingmatterswales i ymuno â'r sgwrs ar-lein.


Fel y dywedodd Serena yn ei blog, mae angen i ni feiddio bod yn fwy uchelgeisiol a cheisio gwasanaethau gwell - nid dim ond dal ymlaen fel ydym. A dim ond o gael cyllid sefydlog a dibynadwy yn ei le y gallwn fod yn wirioneddol arloesol ac ymchwilio ffyrdd newydd o weithio.


Lawrlwythwch y deunyddiau ymgyrch ar gyfer y Diwrnod Gweithredu a dangos eich cefnogaeth drwy glicio yma.