Jump to content

18 Gorffennaf 2018

Pa effaith all rhaglenni Llesiant ei gael ar gadw staff?

Pa effaith all rhaglenni Llesiant ei gael ar gadw staff?
Mae Claire Hurley o Fusion Occupational Health yn un o’r siaradwyr yn ein Uwch Gynhadledd Diogelwch ddydd Gwener 20 Gorffennaf.


Mae’n credu fod llesiant yn y gweithle yn hanfodol ar gyfer gweithlu hapus a bod rhaglenni llesiant yn helpu staff i flaenoriaethu eu hiechyd meddyliol a chorfforol eu hunain.


Os ydych chi eisiau ei chlywed hi a’r siaradwyr eraill gallwch archebu yma


Pan ddaw’n fater o gadw staff ni ddylai hyrwyddo llesiant gweithwyr fyth gael ei danbrisio gan arweinwyr busnes. Mae llesiant ar ei lefel fwyaf syml yn golygu hapusrwydd personol. Y gweithwyr sy’n teimlo’n dda ac yn byw’n iach yw’r aelodau o’ch tîm sy’n debygol o aros hiraf a bod yn fwyaf cynhyrchiol. Wrth fuddsoddi yn eu hiechyd dyma chi’n buddsoddi yn eich busnes.


Mae trin materion llesiant a rheoli straen yn effeithiol yn rhan o’r ‘dyletswydd gofal’ sy’n ddyledus i weithwyr gan eu cyflogwr. Mae’r oblygiadau yn ddwfn iawn a gall yr effaith fod yn drychinebus os na fydd hyn yn cael ei drin yn briodol.


Pan fydd llesiant yn cael ei erydu, gall achosi cynnydd mewn salwch (meddyliol a chorfforol), morâl isel a meddyliau negyddol cysylltiedig â’r gweithle. I’r gweithiwr a’r cyflogwr gall hyn fod yn niweidiol iawn. Os nad yw iechyd meddyliol neu gorfforol gwael yn cael sylw priodol, buan y bydd busnesau’n gweld eu hunain yn wynebu gostyngiad cynhyrchiant, cynnydd mew absenoldeb, ymddiswyddiadau a diswyddo.


Felly, beth yw’r ateb?


Mae’n weddol syml mewn gwirionedd, a does dim angen iddo gostio llawer. Mae cyflwyno rhaglenni llesiant, er enghraifft, yn ei gwneud hi’n haws i weithwyr flaenoriaethu a rheoli eu hiechyd eu hunain yn annibynnol. Mae hefyd yn helpu i ddatblygu diwylliant cadarnhaol yn y gweithle - yn sydyn rydych chi’n fusnes sy’n cefnogi llesiant y staff ac yn annog ei weithwyr i feithrin agwedd well tuag at iechyd a lles. Nid yn unig rydych chi’n debygol o gael gweithlu hapusach ond fe allech yn hawdd ddenu gwaed newydd i’r sefydliad yn ogystal.


Mae effeithiau cadarnhaol blaenoriaethu llesiant hefyd yn arwain at gadw staff yn well a lefelau uwch o gynhyrchiant yn y gwaith. Mae’n fuddsoddiad y dylai pob busnes ystyried ei wneud. Wedi’r cyfan, mae gweithwyr iach yn ymdopi’n well gyda straen, y gallu canolbwyntio’n hirach a rhoi mwy o sylw i fanylion.


Yn Fusion Occupational Health, rydym yn helpu staff ein cleientiaid i fyw bywydau iachach trwy sefydlu gwyliadwriaeth iechyd a rhaglenni sgrinio a chreu strategaethau iechyd galwedigaethol pwrpasol.


Mae llesiant yn y gweithle yn faes sy’n cael mwy a mwy o sylw gan gwmnïau sy’n awyddus i wella’u diwylliant, amgylchedd gwaith a pherfformiad gweithwyr. Mae galluogi gweithwyr i gymryd rheolaeth o’u llesiant yn cael effaith enfawr ar wella bodlonrwydd a chadw staff, yn ogystal â helpu cwmnïau i ddenu talent newydd.


Nid menter yw llesiant, mae’n golygu creu diwylliant ac amgylchedd ble mae pobl yn ffynnu.


Cynhelir yr Uwch Gynhadledd Diogelwch yng Ngwesty Copthorne, Caerdydd ddydd Gwener 20 Gorffennaf.


https://chcymru.org.uk/en/events/view/2018-safety-summit