Jump to content

16 Tachwedd 2017

Os oedd cartref da yn hawl sylfaenol i bawb yng Nghymru, byddai pobl yn iachach...




Lansiwyd gweledigaeth Gorwelion Tai CHC ar gyfer y sector yn ein Cynhadledd Flynyddol ddydd Iau 16 Tachwedd. Gallwch ddarllen y weledigaeth ac edrych ar ein fideo yma.


Pe byddai tai da yn hawl sylfaenol i bawb, byddai pobl yn fwy iach, yn fwy llewyrchus ac wedi cysylltu’n well.


Daliwch i ddarllen i ganfod sut mae cymdeithasau tai eisoes yn cyfrannu at elfen gyntaf gweledigaeth Gorwelion Tai.





Mewn Un Lle


Sefydlwyd rhaglen 'Mewn Un Lle' yng Ngwent gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, pum awdurdod lleol ac wyth cymdeithas tai i gefnogi pobl sy'n byw gyda phroblemau iechyd hirdymor.


Cafodd Paul King ddamwain nifer o flynyddoedd yn ôl a newidiodd ei fywyd am byth. Mae'r anafiadau a gafodd yn golygu ei fod yn awr angen gofal 24 awr. Rhoddodd Mewn Un Lle a Cartrefi Melin gefnogaeth i Paul a'i wraig, gan eu helpu i ddod o hyd i gartref oedd yn fwy addas ar gyfer anghenion Paul.


"Y cyfan oedden ni eisiau oedd cael cartref gyda'n gilydd," esboniodd Paul. "Fedra'i o ddim bod wedi bod yn well hyd yn oed pe byddwn wedi’i gynllunio fy hun."


Mae Paul yn credu fod ei gartref newydd yn wych ac mae'n bendant wedi helpu i wneud bywyd ychydig yn haws.


"Mae'r tŷ yma'n golygu y gallaf wneud rhai pethau drosof fy hun. Gall godi cywilydd arnoch i orfod cael pobl yn gwneud popeth drosoch. Mae symud i mewn yma wedi bod yn werth y byd i mi.


"Rwy'n ddiolchgar iawn i Melin oherwydd maen nhw wedi rhoi cyfle i mi gael gwell ansawdd bywyd."





Rhaglen gwella SATC Cartrefi Cymunedol Gwynedd


Rhwng 2010-2015, dechreuodd Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) ar raglen gwella £136m i wella eu 6,300 o gartrefi i Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC).


Comisiynwyd cwmni annibynnol i fesur effaith y gwaith o fewn cymunedau Gwynedd ac mae'r adroddiad terfynol yn dangos yn glir yr effaith gadarnhaol ar iechyd tenantiaid.


Roedd cyfanswm y gwerth cymdeithasol yng nghyswllt iechyd yn £44,645,813 y flwyddyn (cyfartaledd o £7,878 y tenant). Cytunodd 55% o denantiaid fod iechyd eu plant wedi gwella ac mae 45% o denantiaid yn credu fod y gwelliannau wedi eu galluogi i aros yn eu cartrefi eu hunain yn hirach.


Dywedodd Therapydd Galwedigaethol gyda Thîm Plant Cyngor Gwynedd: "Yn ystod y tair blynedd ddiwethaf rwyf wedi cefnogi llawer o deuluoedd sydd wedi derbyn gwelliannau i'w cartrefi gan CCG. Mae'n hanfodol am nifer o resymau i gael cartrefi gwell i ddarparu gofal, gwell mynediad a'r gallu i ddefnyddio offer arbenigol ar gyfer plant gydag anableddau corfforol. Bydd yn gostwng y risgiau gyda symud, codi a chario, datblygu eu hannibyniaeth, gwella safonau byw ac mae gan y plentyn well mynediad i weddill y cartref i fod gyda'r holl deulu.


Mae clywed fod ymddygiad plant (plant gydag awtistiaeth) yn haws ei drin, y gall ysgolion a rhieni ymdopi'n well a bod rhieni'n cael mwy o gwsg yn adborth cadarnhaol a gefais gan deuluoedd."