Jump to content

16 Tachwedd 2017

Os oedd cartref da yn hawl sylfaenol i bawb yng Nghymru, byddai pobl yn fwy llewyrchus




Lansiwyd gweledigaeth Gorwelion Tai CHC ar gyfer y sector yn ein Cynhadledd Flynyddol ddydd Iau 16 Tachwedd. Gallwch ddarllen y weledigaeth ac edrych ar ein fideo yma.


Pe byddai tai da yn hawl sylfaenol i bawb, byddai pobl yn fwy iach, yn fwy llewyrchus ac wedi cysylltu’n well.


Daliwch i ddarllen i ganfod sut mae cymdeithasau tai eisoes yn cyfrannu at ail elfen gweledigaeth Gorwelion Tai.





Canolfan Fenter Congl Meinciau


Mae Canolfan Fenter Congl Meinciau ym Motwnnog, ger Pwllheli, ac mae'n eiddo Grŵp Cynefin.


Mae Lynne King, sefydlydd busnes cynnyrch llaeth, yn credu na fyddai ei busnes wedi medru ehangu heb Ganolfan Fenter Congl Meinciau.


Aeth Daffodil Foods o nerth i nerth ers iddo ddechrau yn 2011 o ystafell cadw dillad Lynne yn ei chartref.


"Ro'n i'n ysu am fwy o le. Fy unig ddewis arall oedd adleoli Daffodi Foods a chymryd gofod uwchen siop, sef rhywbeth nad oeddwn i'n awyddus i'w wneud", esboniodd Lynne.


Mae cael mynediad i gyfleusterau'r ganolfan wedi galluogi Lynne i dyfu a sefydlu ei chwmni'n llwyddiannus. Mae bellach yn cyflogi deg o bobl a gwerthir ei chynnyrch mewn cadwyni o dafarndai cenedlaethol, ysbytai Cymru, Morrisons ac Ocado.


Mae Daffodil Foods yn un o 27 o wahanol gwmnïau sydd wedi seilio yn y ganolfan ers ei agor yn 2011. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cafodd mwy na 40 o weithwyr eu cyflogi gan gwmnïau'n seiliedig yno, yn cynnwys tri o denantiaid Grŵp Cynefin sy'n byw'n lleol.





Prosiect Pentref Trefol


Yn groes i'r tueddiad o ddirywiad yn y stryd fawr draddodiadol, mae prosiect Pentref Trefol Grŵp Tai Coastal yn Abertawe wedi cyfuno eiddo ar rent, gyda gofod creadigol a masnachol mewn prosiect sy'n ailddiffinio tai cymdeithasol.


Uwchben y datblygiad £25m, mae Coastal yn cartrefu amrywiaeth o denantiaid sy'n gallu gweld yr adeiladau sy'n ffurfio'r prosiect adfywio ar y Stryd Fawr.


Un busnes i fanteisio o greu'r Pentref Trefol yw Mal Pope, cyd-berchennog The Hyst, hyb adloniant byw yn cynnwys stiwdio deledu a radio a gofod perfformio arbennig.


Ar ôl dod i'r Stryd Fawr yn gyntaf i gynnal prosiect theatr naidlen, mae'r cerddor a'r cyfansoddwr Mal yn awr wedi sefydlu The Hyst i ddod â chreadigrwydd ac egni i'r ardal.


Dywedodd Mal: "Mae'r Pentref Trefol yn rhoi diben i hen stryd fawr, ac mae'n gweithio. Mae'r Stryd Fawr yn eiddo i bawb ohonom ac mae Coastal yn gwneud eu gorau i roi bywyd iddi."