Jump to content

14 Mehefin 2023

Y Gymraes gyntaf i ddringo Everest a newyddiadurwraig wobrwyol i annerch Un Gynhadledd Fawr boblogaidd Cartrefi Cymunedol Cymru

Y Gymraes gyntaf i ddringo Everest a newyddiadurwraig wobrwyol i annerch Un Gynhadledd Fawr boblogaidd Cartrefi Cymunedol Cymru

Bydd Tori James, y Gymraes gyntaf i ddringo Everest, a’r newyddiaduwraig wobrwyol Sarah Dickins yn annerch cannoedd o arweinwyr cymdeithasau tai Cymru mewn cynhadledd bwysig yr haf hwn.

Bydd yr anturiaethwraig broffesiynol Ms James a Ms Dickins, sy’n gyn ohebydd gyda’r BBC, yn ymddangos yn Un Gynhadledd Tai Fawr Cartrefi Cymunedol Cymru ar 4 a 5 Gorffennaf.

Cynhelir y gynhadledd yng Ngwesty’r Mercure yng Nghaerdydd a bydd yn dod â phobl a sefydliadau allweddol o bob rhan o sector tai Cymru ynghyd i drafod sut y gallant gefnogi cymdeithasau tai a thenantiaid a datblygu gwasanaethau tai ar draws Cymru.

Yn ystod y digwyddiad deuddydd eleni, bydd siaradwyr yn trafod ôl-osod cartrefi presennol i ateb y galw cynyddol am dai, datgarboneiddio a sero net, adeiladu cartrefi fforddiadwy a diogelu’r amgylchedd, a darparu cartrefi ansawdd uchel.

Mae Ms Dickins a Ms James ymysg llu o siaradwyr, aelodau panel ac arbenigwyr diwydiant fydd yn rhannu eu profiadau dros y ddau ddiwrnod.

Don't forget to book your tickets for One Big!

Book your tickets here

Find out all the latest news and info about the One Big conference here

Fel prif siaradwraig bydd Ms Dickins, a fu’n ohebydd economeg y BBC am 10 mlynedd, yn trafod y rhagolygon economaidd, yr hyn mae’n ei olygu i Gymru, y sector tai cymdeithasol ac uchelgeisiau sero net.

Dywedodd y gyn newyddiadurwraig, a adawodd y BBC i ddod yn ymgynghorydd ar economeg gynaliadwy: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at siarad yn y digwyddiad. Rwy’n credu fod Cartrefi Cymunedol Cymru a’r sector yn wirioneddol hanfodol yn y newidiadau y bydd yn rhaid i bawb ohonom eu gwneud yn nhermau dod yn fwy cynaliadwy, cefnogi’r pontio yn nhermau sut mae’n effeithio ar gyflogwyr a thenantiaid a’r newidiadau y bydd angen i ni ymdopi â nhw yn yr ychydig flynyddoedd nesaf.

“Mae gan Cartrefi Cymunedol Cymru rôl bwysig yn nhermau defnyddio mesurau sy’n ein helpu i ymdopi, tebyg i baneli solar, a hefyd helpu pobl i arfer gyda’r syniad y byddwn yn byw mewn byd gwahanol.”

Bydd ei chyd brif siaradwraig Ms James, a ddaeth y Gymraes gyntaf i ddringo Everest yn 25 oed, yn trafod gwytnwch ar gyfer pobl a thimau mewn cyfnodau anodd.

Dywedodd seren rhaglen On Top of the World, rhaglen deledu am ei halldaith a’i champau dringo: “Rwyf wrth fy modd i fod yn siarad yn Un Gynhadledd Fawr Cartrefi Cymunedol Cymru. Byddaf yn rhannu fy mhrofiadau o rai o’r amgylcheddau mwyaf eithafol ac anodd o amgylch y byd.

“Byddaf yn edrych ar yr hyn sydd angen i fod yn dîm perfformiad uchel, cyflawni dan bwysau a datblygu gwytnwch ar gyfer yr hirdymor.”

Wrth siarad am y gynhadledd dywedodd Stuart Ropke, prif weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru, ei fod yn argoeli bod yn ddigwyddiad llwyddiannus arall.

Dywedodd: “Dros y blynyddoedd mae ein Un Cynhadledd Fawr wedi dod yn rhan hanfodol o’r calendr digwyddiadau tai, a rydym yn falch i fedru dod â’r sector ynghyd eto yn y ffordd wirioneddol effeithol yma.

“Mae’r gynhadledd yn ofod gwerthfawr tu hwnt lle gall arweinwyr cymdeithasau tai a phobl allweddol ddod ynghyd i drafod y materion mawr, rhannu eu syniadau a chydweithio i wneud gwahaniaeth i’r sector tai sy’n esblygu yng Nghymru.

“Edrychwn ymlaen at weld yr holl gymdeithasau tai sy’n aelodau o Cartrefi Cymunedol Cymru, ein partneriaid, gwesteion a siaradwyr, am yr hyn sy’n edrych fel blwyddyn gofiadwy arall.”

I brynu tocynnau ar gyfer yr Un Gynhadledd Fawr ewch i wefan Cartrefi Cymunedol Cymru neu ganfod mwy am Cartrefi Cymunedol Cymru a chymdeithasau tai yng Nghymru ewch i https://chcymru.org.uk/

Ar gyfer ymholiadau’r wasg neu’r cyfryngau anfonwch e-bost at media@chcymru.org.uk