Jump to content

14 Hydref 2026

O ysgytiadau economaidd i wydnwch tai

O ysgytiadau economaidd i wydnwch tai

Dechreuais fy araith yng Nghynhadledd Cyllid 20926 Cartrefi Cymunedol Cymru mewn lle anarferol: y farchnad olew.

Ym mis Ebrill 2020, trodd un mesur allweddol o bris olew yn negyddol wrth i’r pandemig ostwng galw a daeth capasiti storio yn brin. Am gyfnod byr, yn ymarferol roedd masnachwyr yn talu i bobl eraill fynd â’r rhwymedigaeth i dderbyn olew oddi arnynt. Roedd y darlun yn wahanol iawn ym mis Medi eleni, gyda Brent, mesur allweddol arall o bris olew, yn symud yn uwch na $100 y baril wrth i wrthdaro a tharfu godi pryderon am gyflenwadau ynni.

Gall ysgytiadau economaidd sy’n dechrau ymhell o Gymru ddal deithio drwy’r economi ac effeithio ar aelwydydd, busnesau a darparwyr tai yma. Gall geowleidyddiaeth ddylanwadu ar brisiau ynni drwy darfu ar gyflenwad, llwybrau cludiant neu ddisgwyliadau am argaeledd y dyfodol. Yn eu tro, mae prisiau ynni uwch yn cynyddu costau cludiant a chynhyrchu.

Ystyriwch ddisel fel enghraifft syml. Gall cwmni cludo sy’n wynebu cynnydd cyson mewn costau tanwydd ymdopi eu hunain â pheth o’r cynnydd, ond gall fod angen iddo godi mwy ar gwsmeriaid maes o law. Mae cyflenwr deunyddiau adeiladu wedyn yn talu mwy i gludo ei nwyddau a gall drosglwyddo peth o’r gost honno i gontractwr. Yn y pen draw, mae’r gymdeithas tai sy’n adeiladu neu gynnal a chadw cartrefi yn wynebu costau uwch hefyd.

Mae’r un broses yn cyrraedd aelwydydd. Gall costau cludiant uwch fwydo i brisiau bwyd a phrisiau eraill, a gall biliau ynni gynyddu’n uniongyrchol. Wrth i’r cynnydd prisiau hyn ddod yn fwy eang, maent i’w gweld mewn mesurau chwyddiant. I denantiaid, nid dim ond canran mewn set ddata yw hyn. Gall olygu fod hanfodion yn mynd â chyfran fwy o gyllideb yr aelwyd.

Gwelsom hyn yn glir ar ôl i Rwsia ymosod ar Wcráin yn 2022. Fe wnaeth tarfu ar farchnadoedd ynni Ewropeaidd gyfrannu at brisiau nwy a thrydan sylweddol uwch, a chyrhaeddodd chwyddiant CPI 11.1 y cant yn y Deyrnas Unedig ym mis Hydref y flwyddyn honno.

Mae chwyddiant parhaus wedyn yn creu her arall. Ni all Banc Lloegr gynhyrchu mwy o olew neu ailagor llwybr llongau. Yr hyn y gall ei wneud yw defnyddio polisi ariannol i geisio atal ysgytwad dechreuol rhag ymwreiddio mewn cyflogau, prisiau a disgwyliadau. Os yw’n edrych yn debyg fod chwyddiant yn parhau yn uchel, gall fod angen i’r Gyfradd Banc aros yn uwch neu godi ymhellach.

Ond dim ond un rhan o amgylchedd cyllido yw’r Gyfradd Banc. Mae marchnadoedd ariannol yn ceisio rhagweld yr hyn y bydd y Gyfradd Banc ei wneud nesaf, felly gall arenillion gilt, cyfraddau ffeirio a meincnodau eraill symud cyn i’r Gyfradd Banc ei hun newid. Mae’r cyfraddau hynny yn helpu i benderfynu cost cyllid tymor hirach, tra bod benthycwyr a buddsoddwyr hefyd yn ychwanegu lledaeniad credyd gan adlewyrchu’r risg sy’n gysylltiedig gyda benthycydd neilltuol. Felly gall costau benthyca godi hyd yn oed pan nad yw’r Gyfradd Banc wedi symud.

Mae’r un pwysau economaidd hefyd yn cyrraedd cyllid cyhoeddus. Gall chwyddiant a chyfraddau llog marchnad uwch gynyddu cost gweini dyled llywodraeth. Gan sôn am ei fwriadau ar gyfer Cyllideb yr Hydref, dywedodd y Canghellor John Healey y byddai “disgyblaeth gyllidol” yn greiddiol iddi a soniodd sut mae costau gweini dyled yn llyncu adnoddau a fedrai fel arall gefnogi gwasanaethau cyhoeddus. Nid yw costau dyled llog uwch yn awtomatig yn penderfynu faint o gyllid sydd ar gael ar gyfer tai, ond maent yn gostwng y gofod sydd ar gael pan mae llywodraeth yn dewis rhwng blaenoriaethau sy’n cystadlu mewn gwario a buddsoddi.

Ar gyfer cymdeithasau tai Cymru, mae’r pwysau hyn yn dod at ei gilydd.

Tu ôl i bob trafodaeth am chwyddiant, benthyca, buddsoddiad a mantolenni mae tenantiaid, teuluoedd a chymunedau. Yn y pen draw, mae’r rhifau yn cyfri oherwydd fod pobl yn byw gyda’u canlyniadau.
Ed Jones

Mae chwyddiant yn codi cost adeiladu, trwsio a chynnal a chadw cartrefi, a hefyd yn rhoi pwysau ar gyllidebau aelwyd tenantiaid. Mae cyflwr y farchnad ariannol yn effeithio ar gost benthyca ac ailgyllido. Mae pwysau ar gyllid cyhoeddus yn gwneud yr amgylchedd ar gyfer cyllid a buddsoddiad y llywodraeth yn anos.

Daw’r pwysau hyn ar yr un pryd ag mae angen i gymdeithasau tai adeiladu mwy o gartrefi, gwella stoc presennol ac ateb ymrwymiadau datgarboneiddio. Dengys asesiad risg sector 2026 Llywodraeth Cymru lawer o'r un problemau, yn cynnwys cyfraddau llog hirdymor, hylifedd a gofod cyfamodau.

Mae’r her yn fwy na dim ond bod pob un o’r mathau gwahanol y bwysau yn bodoli. Yr her yw y gall sawl un ohonynt barhau a gwaethygu ar yr un pryd, gan roi mwy o alw ar yr un fantolen.

Dyna pam fod gwydnwch ariannol yn bwysig. Mae’n golygu cadw hyblygrwydd: bod yn fwriadol am pryd mae cymdeithasau tai yn benthyca a phryd y gallant osod cyfraddau, cyfuno ffynonellau cyllid, rhoi prosiectau mewn trefn, diogelu hylifedd a gofod cyfamodau, a defnyddio partneriaethau lle maent yn wirioneddol yn rhannu risg neu ychwanegu capasiti.

Mae lle am hyder yn parhau yng ngallu’r sector i ymateb. Ni all darparwyr tai reoli geowleidyddiaeth, prisiau ynni na marchnadoedd ariannol. Gallant ddeall sut mae’r ysgytiadau yn eu cyrraedd, cynnal profion straen ar eu cynlluniau a chadw lle i weithredu pan mae amodau yn newid.

Mae’r hyblygrwydd hwnnw yn bwysig oherwydd nad yw gwydnwch ariannol yn ddiben ynddo ei hun. Ei bwrpas yw diogelu gallu’r sector i adeiladu, cynnal a chadw a gwella cartrefi, a pharhau i gefnogi’r bobl sy’n dibynnu arnynt.

Mae hynny’n bwysig oherwydd tu ôl i bob trafodaeth am chwyddiant, benthyca, buddsoddiad a mantolenni mae tenantiaid, teuluoedd a chymunedau. Yn y pen draw, mae’r rhifau yn cyfri oherwydd fod pobl yn byw gyda’u canlyniadau.