Jump to content

19 Medi 2018

'Nôl i'r Ysgol

'Nôl i'r Ysgol
Tybed a yw ein gwleidyddion yn cael yr un teimladau o felan nôl-i'r-ysgol ar ddiwedd gwyliau ag oeddwn i bob amser yn eu cael ar ddiwedd gwyliau'r haf? Oes ganddyn nhw siwtiau newydd smart nad ydynt yn gyfforddus eto? Llyfrau ysgrifennu newydd glân a beiros yn eu bagiau y byddant yn eu defnyddio i ysgrifennu'r dyddiad yn daclus ar dop pob tudalen am wythnos neu ddwy? Ydyn nhw'n addunedu gweithio ychydig yn galetach eleni?

Dychwelodd Aelodau Seneddol San Steffan i Dŷ'r Cyffredin dechrau mis Medi, gyda'r Cynulliad yn dilyn wythnos diwethaf. Roeddwn i bob amser yn casáu mynd yn ôl i'r ysgol ar ôl y gwyliau, hyd yn oed er fy mod yn hoffi'r ysgol, a gallaf ddychmygu fod hynny hyd yn oed yn fwy gwir ar gyfer ein gwleidyddion. Mae gwasanaeth arferol yn dychwelyd, gan olygu boreau cynnar, nosweithiau hwyr a dyddiau hir, ynghyd ag wythnosau i ffwrdd o adre ac mae peth o'r gwaith caletaf y bu'n rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn bygwth ar y gorwel.

Mewn llawer o ffyrdd, mae gwleidyddion yn dychwelyd i'r un sefyllfa y gwnaethant ei gadael; mae'r Cynulliad a hefyd San Steffan yn edrych ychydig yn aflonydd ac mae'n debyg nad yw gwleidyddion yn gwybod yn iawn sut olwg fydd ar eu gwaith dros yr ychydig fisoedd nesaf. Nid oes llawer wedi newid mewn gwirionedd dros wyliau'r haf yn y cyswllt hwn, ond gyda chynadleddau pleidiau yn cael eu cynnal dros yr ychydig wythnosau nesaf, byddwn yn rhagweld rhai cyhoeddiadau mawr.

Mae aflonyddwch o fewn y prif bleidiau ac mae'n teimlo fel y gallent fod ar fin torri. Efallai fod newid yn yr aer ac y bydd rhywbeth yn digwydd. Mae'r ffrae gwrth-semitiaeth a aeth â sylw Llafur yn y misoedd diwethaf wedi parhau drwy'r haf ac yn dal i ysgogi dadlau ac achosi problemau i Jeremy Corbyn a'i gefnogwyr. Mae'n ymddangos ei fod yn llusgo ymlaen am fwy nag arfer y tro hwn, sy'n gwneud i mi dybio os y bydd yn dod i'r berw ac yn arwain at newid ar y brig. Mae hyn yn ymddangos yn fwy tebygol oherwydd bod cynadleddau yn gyfle delfrydol i gamu lawr, neu i feirniaid gyflwyno heriau ffurfiol.

Mae hyn hefyd yn wir am y Ceidwadwyr, lle mae sefyllfa debyg o aflonyddwch yn mudferwi ymhlith Aelodau Seneddol. Mae'r anghydfod o fewn y Ceidwadwyr yn canolbwyntio mwy ar sut mae May wedi trin Brexit a'r diffyg presennol o unrhyw fath o gytundeb. Ar y naill ochr, mae'r rhai o blaid Brexit yn bryderus y bydd yn cyfaddawdu ar y pethau y buont yn gweithio drostynt, ac ar yr ochr Aros mae pryder am y canlyniadau os na cheir cytundeb. Gyda'r aflonyddwch rhwng Aelodau Seneddol Ceidwadol yn parhau, mae'n amhosibl tybio beth fedrai ddigwydd yng nghynhadledd y Ceidwadwyr eleni. Bu'r ffraeo rhwng Boris Johnson a Theresa May yn amlwg ac yn gyhoeddus iawn, ond mae'n anodd gwybod os bydd yr anghydfod yma'n datblygu i fod yn rhywbeth mwy cadarn ond mae'n sicr yn bosibilrwydd. Ar ôl dweud hynny, roedd sesiwn gyntaf Cwestiynau'r Prif Weinidog ar ôl yr haf yn weddol dawel ac wedi'i gysgodi gan y datganiad ar yr achosion gwenwyno yn Salisbury. Y gosteg cyn y storm neu efallai na fydd unrhyw heriau arweinyddiaeth a fu'n llenwi'n meddyliau yn digwydd cyn gynted ag yr ymddangosent dros yr haf.

Nawr bod y Cynulliad wedi dychwelyd o'i gwyliau, byddwn yn disgwyl i Blaid Cymru, Ceidwadwyr Cymru a Llafur Cymru fod ynghlwm â'u hetholiadau arweinyddiaeth dros yr ychydig wythnosau (a misoedd) nesaf fel y trafodais mewn blogiad blaenorol - gallem fod yn edrych ar Gynulliad gwahanol iawn pan ddaw mis Ionawr.