Jump to content

03 Hydref 2013

Ni fydd y Cynllun Annheg i Ddileu Budd-daliadau i Rai 25 yn Gweithio

Dywedodd Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) fod y cynllun a gyhoeddwyd ddoe (dydd Mercher 2 Hydref) gan y Prif Weinidog David Cameron i ddileu pob budd-dal lles i bobl dan 25 oed yn fympwyol, annheg ac anymarferol.
Yn ôl CHC, byddai'r cynlluniau ynghyd â mesurau presennol i roi uchafswm ar daliadau budd-dal tai i deuluoedd gyda dibynyddion yn gwthio mwy o bobl ifanc i dlodi a digartrefedd, a'i gwneud yn galetach iddynt ddod o hyd i waith.
Dywedodd Amanda Oliver, Pennaeth Polisi CHC: "Er ein bod yn cefnogi damcaniaeth 'ennill neu ddysgu' ar gyfer y rhan fwyaf o bobl ifanc, y cyfan a wnaiff budd-dal tai i rai dan 25 fydd gwthio llawer i fod yn ddigartref sy'n ei gwneud yn anos iddynt 'ennill neu ddysgu'."