Jump to content

25 Awst 2026

Ni fydd cyfyngu mynediad i dai cymdeithasol yn datrys argyfwng tai Cymru

Ni fydd cyfyngu mynediad i dai cymdeithasol yn datrys argyfwng tai Cymru

Stuart Ropke, Prif Weithredwr, Cartrefi Cymunedol Cymru

Ein cartrefi yw sylfaen popeth, o’n hiechyd a llesiant i addysg, swyddi a bywyd cymunedol. Mae cartrefi cymdeithasol yno i roi’r sylfaen hwn i bawb na fyddai fel arall yn medru fforddio diwallu y mwyaf sylfaenol o’n hanghenion: cysgod.

Mae sicrwydd cartref sefydlog yn golygu y gall blant ganolbwyntio yn yr ysgol. Mae’n golygu fod pobl yn cymryd rhan yn eu cymuned oherwydd fod ganddynt gyfle i  ddod i adnabod eu cymdogion. Mae’n golygu y gall pobl ddatblygu mwy o sgiliau neu aros mewn gwaith yn agos adre.

Mae tai cymdeithasol am yr hirdymor ac mae hyn yn wirioneddol bwysig: i bobl ac i leoedd. Pan fydd tai yn iawn, caiff y manteision eu teimlo ym mhob man a gan bawb. Mae tenantiaethau sicr a hirdymor yn golygu y gall pobl fwrw gwreiddiau ac adeiladu eu bywydau.

Ond ar hyn o bryd, nid oes gennym ddigon o gartrefi cymdeithasol yng Nghymru ar gyfer y bobl sydd eu hangen. Mae’r argyfwng tai yn hysbys iawn yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig: mae gormod o bobl yn dal i fyw mewn cartrefi sy’n anfforddiadwy, anaddas neu anniogel, ac mae gormod o bobl heb le i’w alw yn adre.

Mae achosion hyn, er yn gymhleth ac yn cynnwys penderfyniadau gan lywodraethau olynol dros ddegawdau, yn deillio o un gwirionedd sylfaenol: nid oes gennym ddigon o gartrefi cymdeithasol.

Mae achosion hyn, er yn gymhleth ac yn cynnwys penderfyniadau gan lywodraethau olynol dros ddegawdau, yn deillio o un gwirionedd sylfaenol: nid oes gennym ddigon o gartrefi cymdeithasol.

Mae consensws gwleidyddol fod angen i ni adeiladu mwy o gartrefi sy’n wirioneddol fforddiadwy yn y lleoedd mae pobl eu hangen. Fodd bynnag, mewn wythnosau diweddar clywsom ddadleuon y dylid cyfyngu mynediad i gartrefi cymdeithasol ac ymhellach y dylai rhai pobl sy’n byw ynddynt ar hyn o bryd gael eu troi allan ar sail ffactorau tebyg i’w man geni a statws eu perthynas a’u cyflogaeth.

Byddai hyn yn gwrthddweud holl ddiben tai cymdeithasol ac yn hollol groes i werthoedd cymdeithasau tai yng Nghymru: darparu cartrefi hirdymor ar gyfer y rhai sydd eu hangen ac y gall pobl adeiladu eu bywydau ynddynt.

O gofio am faint yr argyfwng tai a’r nifer o bobl sy’n byw mewn tai anaddas, anfforddiadwy neu anniogel, mae’n bwysig ein bod yn edrych ar bob cyfle i weithredu.

Fodd bynnag, mae cynigion i droi pobl sy’n byw yma’n gyfreithlon allan o’u cartrefi, sydd yn yr un dosbarth â’n plant yn yr ysgol, yn gydweithwyr, cymdogion a ffrindiau i ni, yn annerbyniol. Mae’n achosi ofn, porthi rhaniadau pellach a gallai chwalu cymunedau.

Byddai hefyd yn achosi lefelau enfawr o galedi a chynyddu digartrefedd, gan waethygu’r union broblemau y gwyddom fod angen i ni eu datrys. Byddai’n golygu y byddai cynghorau ledled Cymru yn gwario hyd yn fwy o arian ar lety dros dro drud ac anaddas. Ni fyddai’n gosod yr un fricsen tuag at adeiladu’r cartrefi rydym eu hangen.

Caiff cartrefi cymdeithasol eu dyrannu ar sail angen. Mae’r gyfraith yn golygu fod angen rhoi blaenoriaeth i bobl sydd â’r angen mwyaf am gartref. Oherwydd prinder cyfredol tai cymdeithasol, yn aml y bobl y caiff cartrefi eu dyrannu iddynt yw’r rhai sydd â’r anghenion tai mwyaf dwys, yn cynnwys pobl sy’n ddigartref, anabl neu sydd â phlant ifanc. Mae angen brys i ni adeiladu mwy o gartrefi cymdeithasol er mwyn medru cyrraedd pawb sydd eu hangen.

Yn y degawd diwethaf mae’r Senedd wedi pasio cyfreithiau sy’n coleddu egwyddorion atal digartrefedd a darparu cartrefi hirdymor sicr i’r rhai sydd eu hangen. Mae Cymru yn awr yn adeiladu tai cymdeithasol newydd ar y gyfradd uchaf ers 2008.

Yn y degawd diwethaf mae’r Senedd wedi pasio cyfreithiau sy’n coleddu egwyddorion atal digartrefedd a darparu cartrefi hirdymor sicr i’r rhai sydd eu hangen. Mae Cymru yn awr yn adeiladu tai cymdeithasol newydd ar y gyfradd uchaf ers 2008.

Rydym yn gwneud cynnydd ond mae llawer mwy i’w wneud. Nid gosod gwahanol grwpiau o bobl yn erbyn ei gilydd a hollti cymunedau yw’r llwybr allan o’r argyfwng tai. Yr ateb yw adeiladu’r cartrefi cymdeithasol rydym eu hangen fel mater o frys ym mhob rhan o Gymru.