Jump to content

15 Tachwedd 2019

Newydd i'r sector tai

Newydd i'r sector tai
Cyn i mi ddechrau gweithio gyda CHC, doedd gen i ddim syniad pa mor eang yw'r sector tai mewn gwirionedd - yn arbennig felly yng Nghymru. O safbwynt rhywun o'r tu allan a chyn bod yn rhan ohono, fyddwn i byth wedi sylweddoli faint o weithgaredd sy'n mynd rhagddo yn y sector.


Sylweddolais y gorgyffwrdd gyda'r maes tai drwy fy nghefndir mewn lobio amgylcheddol. Gall cartrefi ansawdd da effeithio ar gynifer o agweddau eraill o fywyd rhywun. Roeddwn eisiau gweithio mewn sector sy'n rhoi bywoliaeth pobl eraill yn flaenllaw yn ei nodau. Hefyd, mae angen mwy o ddwylo gan nad oes fawr o arwyddion fod yr argyfwng tai yn arafu!


Hyd yma, rwyf wedi dadansoddi cryn dipyn o ddata, yn cynnwys y Cytundeb Tai ac adborth gan ein haelodau ar ymatebion i wahanol ymgynghoriadau. Rwy'n mwynhau'n arbennig yr holl ddarnau ymatebol o waith a all effeithio ar yr agenda tai (e.e. Brexit a'r Etholiad Cyffredinol).


Mae CHC yn wirioneddol ddeall pwysigrwydd cydbwysedd gwaith/bywyd ac mae'r dull gweithio hyblyg yn golygu nad ydych byth yn gwybod pwy welwch chi yn y swyddfa ac yn gwneud y swydd yn fwy diddorol byth.


Maent yn rhoi pwysau mawr ar ddatblygiad proffesiynol ac rwyf eisoes wedi bod ar wahanol fathau o hyfforddiant a dyddiau cwrdd i ffwrdd i'r tîm yn fy ychydig fisoedd cyntaf. Bu'n gyfle gwych i gwrdd â gwahanol bobl ar draws y sector ac adeiladu perthynas, yn ogystal â dod i adnabod fy nghydweithwyr yn well. Os oes rhywbeth rwyf eisiau canolbwyntio arno neu gael mwy o wybodaeth amdano, mae'r tîm yn galonogol a chefnogol iawn.


Nid oeddwn erioed wedi bod yn rhan o dîm polisi mor fawr o'r blaen. Mae'n wych cael cynifer o bobl yn gweithio ar wahanol bethau a chael yr holl gefnogaeth yno os ydych ei angen. Mae pawb wedi bod mor groesawgar ac mae hynny'n wir am y sefydliad drwyddo draw. Mae CHC yn lle cymdeithasol iawn i weithio ynddo - mae rhywun bob amser yn trefnu rhywbeth. Roedd y noswaith karaoke yn bendant yn brofiad diddorol ar ôl i mi fod yma am gwpl o wythnosau!


Cefais ddechrau gwirioneddol addawol ar y swydd ac rwy'n edrych ymlaen at weld beth y byddaf yn gweithio arno yn y misoedd i ddod.