Jump to content

22 Mehefin 2017

Newid diwylliant, adeiladu ymddiriedaeth a chanolbwyntio ar yr hyn sy'n cyfrif fwyaf




Tracy Myhill, Prif Weithredydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, ydw i ac rydw i'n ysgrifennu hyn heddiw yn 2017 gyda safbwynt gwahanol iawn i pan ofynnwyd i mi ymuno â'r Ymddiriedolaeth ym mis Hydref 2014.


Roeddem dan sgriwtini enbyd gan wleidyddion ac yn y wasg, roedd ein targedau ymateb misol yn benawdau negyddol yn gyson ac roeddem yn gorfod amddiffyn ac esbonio heriau ein gwasanaethau mewn hinsawdd wrthwynebus, ac mae'n ddealladwy fod ysbryd y staff yn isel iawn.


Unwaith y cyrhaeddais sylweddolwn nad oeddwn wedi llawn sylweddoli faint yr her oedd o fy mlaen!


A symud ymlaen yn gyflym i Chwefror 2017; mae ein model ymateb clinigol peilot yn arwain y byd a chafodd ei wneud yn barhaol - cam mawr ar y daith arloesol a thrawsnewidiol yr ydym arni - ac mae canlyniadau arolwg staff GIG Cymru yn dangos gwelliant sylweddol fel lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac eisiau gweithio ynddo.


Mae hyn i gyd yn beth da.


Ac mae hyn i gyd wedi cymryd ymdrech enfawr - un sy'n parhau, bob un dydd.


Mae hyn i gyd oherwydd y bobl. Y bobl sy'n gwneud i bethau ddigwydd.


Mae'n galonogol iawn ein bod yn gwneud y cynnydd a fynnwn er ein bod yn uchelgeisiol a dim lle'r ydym eisiau bod - eto.


Mae pobl yn aml yn gofyn i mi pwy fyddai eisiau bod yn Brif Swyddog Gweithredol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a beth sydd ei angen ar gyfer y swydd.


Mae'r ateb yn wirioneddol syml:


Rydw i'n caru fy swydd.


Rydw i'n angerddol am yr Ymddiriedolaeth a'r bobl anhygoel sy'n gweithio yma ym mhob maes gwasanaeth yn gwneud popeth a fedrant i wneud gwahaniaeth go iawn i gleifion - rydw i'n credu'n llwyr yn ein diben a'n potensial ac yn rhoi'n ddi-baid o fy amser, egni a ffocws i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn.


Rydw i mor falch i arwain Gwasanaeth Ambiwlans Cymru p'un ai'n treulio amser ar reidiau anffurfiol ac ymweliadau gyda chydweithwyr ar y rheng flaen, neu'n cynrychioli’r Ymddiriedolaeth mewn cyfarfodydd ffurfiol a strategol.


Mae'n fraint arwain sefydliad sy'n cyffwrdd â bywydau pobl. Mae ein cleifion yn bwysig i'n gweithlu, ac mae'r gweithlu'n bwysig i finnau.


24 awr y dydd, 365 dydd y flwyddyn.


Nid yw ein gwaith drosodd ond mae'r cynnydd sylweddol a wnaethom yn rhoi hyder i fi y byddwn yn parhau i gyflenwi mwy i'n poblogaeth a'n staff.


Fel merch o Donypandy a ddechreuodd weithio yn y dderbynfa yn Ysbyty Deintyddol Cymru, mae fy mam yn falch ohonof hefyd!


Tracy Myhill,
Prif Weithredydd, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru


www.twitter.com/TracyWAST