Blog gwadd: Angen hyfforddeion a mentoriaid newydd ar gyfer trydydd rhifyn Llwybr i’r Bwrdd
Gwahoddir pobl Ddu, Asiaidd a lleiafrif ethnig a mentoriaid sydd eisiau cefnogi mwy o amrywiaeth ledled sector tai cymdeithasol Cymru a thu hwnt i wneud cais am drydedd rhaglen flynyddol Llwybr i’r Bwrdd.
Yma, mae Afshan Iqbal, rheolwr prosiect Llwybr i’r Bwrdd, yn esbonio pam fod y rhaglen mor fuddiol ac yn gwneud cymaint o wahaniaeth ar draws sefydliadau a chymunedau ledled Cymru.
Rydym yn falch iawn i lansio ein rhaglen ddiweddaraf Llwybr i’r Bwrdd ac yn galw am hyd at 20 o hyfforddeion newydd i ymuno â֗ ni eleni.
Drwy Llwybr i’r Bwrdd anelwn hyrwyddo amrywiaeth mewn ystafelloedd bwrdd ac ar lefel arweinyddiaeth ar draws Cymru drwy roi’r sgiliau a’r wybodaeth mae hyfforddeion eu hangen i gymryd rhan ar lefel uchaf unrhyw sefydliad.
Yn ystod y rhaglen, mae ein hyfforddeion yn dilyn modiwlau a gyflwynir gan arbenigwyr y diwydiant, yn rhoi sylw i bynciau, ac maent hefyd yn derbyn mentora arbenigol gan arweinwyr sefydliadau i’w paratoi ar gyfer y camau nesaf yn eu gyrfa.
Ar ôl graddio, caiff cyfranogwyr eu hannog i ddefnyddio eu sgiliau newydd a gwneud cais am swydd arweinydd neu swydd ar y bwrdd, gyda phwyslais ar ddilyn swyddi yn y sector tai cymdeithasol.
Diolch i’n dull blaengar, cafodd saith o bobl o’n derbyniad cyntaf eu recriwtio i swyddi ar y bwrdd, a phenodwyd chwech yn yr ail flwyddyn.
Rydym yn awr yn edrych am ein derbyniad nesaf o ymgeiswyr ac ystyrir pob cefndir, ond mae gennym ddiddordeb neilltuol mewn clywed gan bobl gyda sgiliau a gaiff eu tangynrychioli, yn cynnwys rhai gyda phrofiadau byw o gymunedau amrywiol a hefyd rai o gefndir mewn cyllid, llywodraethiant a chyfreithiol.
Drwy ymuno â’r rhaglen gall cyfranogwyr helpu i wneud effaith mewn arweinyddiaeth ar draws y sector tai cymdeithasol a thu hwnt.
Credwn fod cael mwy o sylwadau gan bobl Ddu, Asiaidd a lleiafrif ethnig ar lefel uchaf busnes yn hidlo lawr drwy sut mae’n gweithredu ac yn cyflwyno profiadau byw sy’n fuddiol i bawb.
Rhoddwn hyder i gyfranogwyr wneud cais am y swyddi bwrdd hyn, nad oedd ganddynt efallai y sgiliau i’w gwneud o’r blaen, er fod ganddynt y profiad byw a gwerthoedd cywir.
Rydym hefyd yn dymuno recriwtio mentoriaid newydd i weithio gyda’r derbyniad diweddaraf o gyfranogwyr. Mae angen i’r ymgeiswyr hyn gael profiad bwrdd, neu fod yn eistedd ar bwrdd, ac mae angen iddynt enwebu eu hunain i gymryd rhan yn rhaglen.
Ychwanegir mentoriaid newydd at ein cronfa o arbenigwyr presennol sy’n llywio’r cyfranogwyr yn ystod y naw mis. Byddant yn cynnig cyngor a gwybodaeth werthfawr i’r hyfforddeion a’u paratoi ar gyfer yr hyn y gallant ei ddisgwyl o weithio ar fwrdd sefydliad.
Mae angen i fentoriaid fynychu o leiaf un cyfarfod y mis fel rhan o’r rhaglen. Croesawn ymgeiswyr o’r sector tai cymdeithasol, ond gall mentoriaid o bob sector wneud cais i gymryd rhan.
Mae ein cyfranogwyr yn dysgu cymaint gan ein mentoriaid ac mae mentoriaid hefyd yn cael y cyfle i ddysgu gan gyfranogwyr sydd wedyn yn mynd ymlaen i swyddi ar fwrdd a rhoi adborth ar yr hyn y maent yn ddysgu ac yn brofi drostynt eu hunain. Mae’n rôl werth chweil iawn.
I wneud rhan yn rhaglen Llwybr i’r Bwrdd neu i ddod yn mentor, cysylltwch ag Afshan Iqbal ar afshan.iqbal@ccha.org.uk os gwelwch yn dda.