Jump to content

28 Mehefin 2017

Mynd i’r afael â phremiwm tlodi drwy rannu data #2




Darllenir yr erthygl cyntaf yn y gyfres yma fan hyn.


Aeth bron 18 mis heibio ers creu Pobl. Yn y cyfnod hwnnw rydym wedi treulio llawer o amser yn ystyried sut i gyflawni heriau'r dyfodol a sicrhau profiad gwych i gwsmeriaid ar draws ein holl wasanaethau.


Mae sut y defnyddiwn ddata yn ganolog i sicrhau diwylliant gwasanaeth ardderchog. Nid dim ond y data yr ydym ni'n berchen arno ond y llwyth o ddata personol y mae cyrff eraill yn ei gadw ar ein cwsmeriaid a chymunedau. Gwn y gall defnyddio a chael mynediad i ddata ffynhonnell agored e.e. cyfryngau cymdeithasol godi amheuon ymysg rhai. Fodd bynnag gwyddom y bydd deall ein cwsmeriaid yn well drwy ddata yn arwain at wasanaeth gwell a mwy personol iddynt. Credaf fod hyn yn gysyniad y mae mwy a mwy o bobl yn dechrau ei ddeall.


Yn Pobl, roedd Siarter a Gwalia yn gymharol gynnar i ddefnyddio cynnyrch INSIGHT a Rental Exchange a ddisgrifiwyd gan Serena o Tai Coastal mewn blog cynharach. Cawsom ein denu at Rental Exchange ac INSIGHT gan y gwyddem y gallai ein helpu i gyflawni newid sylfaenol yn y ffordd y defnyddiwn ddata i wella profiad cwsmeriaid. Roedd helpu ein tenantiaid i wella eu mynediad i gredyd rhatach hefyd yn bwysig iawn.


Mae un o nodweddion mwyaf defnyddiol INSIGHT yn ein helpu i ddynodi tenantiaid sy'n talu rhent ond sy'n cael problemau'n ad-dalu dyled i drydydd parti. Mae hyn yn ein helpu i dargedu cyngor a chefnogaeth at y rhai sydd fwyaf eu hangen ac yn atal tenantiaid rhag mynd i ôl-ddyled rhent yn y lle cyntaf. Nodwyd fod dros 400 o'n tenantiaid yn fregus yn ariannol. Ni fydd llawer o'r tenantiaid hyn wedi bod mewn ôl-ddyled rhent ond bydd ganddynt broffil dyled gyda thrydydd parti sy'n awgrymu y gallent cyn hir fod yn methu talu eu rhent. Mae mor bwysig mynd o flaen y gêm a chanolbwyntio gwasanaethau cyngor arian ar y bobl sydd fwyaf ei angen. Mae hyn yn neilltuol o bwysig wrth i ymestyn Credyd Cynhwysol ddechrau cynyddu'r pwysau ar bobl i drin eu harian mewn ffordd fydd yn hollol newydd i lawer o bobl.


Mae Rental Exchange yn galluogi ein cwsmeriaid tai i sicrhau gwell sgorau credyd a chael mynediad i fenthyca prif ffrwd, am y tro cyntaf mewn llawer o achosion. Nid damcaniaeth yw hyn; bydd mwyafrif helaeth ein tenantiaid yn gweld eu graddiad credyd yn gwella wrth i ni barhau i ddefnyddio Rental Exchange. Mae'n helpu i godi cwsmeriaid allan o dlodi a byddem yn annog eraill yn y sector i ystyried sut y gallai wneud yr un peth iddyn nhw.


Mae defnyddio INSIGHT a Rental Exchange wedi'n helpu i greu diwylliant newynog am ddata ar draws Cymru gyda thimau'n defnyddio cyfuniad o ffynonellau data mewnol ac allanol i ddeall mwy am ein cwsmeriaid a'r cymunedau y gweithiwn ynddynt. Mae ein diwylliant yn dechrau symud o ymatebol i ddarogan diolch i well perthynas gyda data.


Mae'n syndod pa mor rhwydd yw darogan bodau dynol. Os gallwn ddeall y darogan yma, gallwn ddarparu gwell gwasanaethau. Mae ein profiad o ddefnyddio data yn ein helpu i feddwl sut y gallwn deilwra ein gwasanaethau hyd yn oed ymhellach yn y dyfodol, gan ddefnyddio data i roi gwybodaeth am y math gorau, amseriad a lefel ymyriad i wneud y gwahaniaethau cadarnhaol mwyaf i fywydau cwsmeriaid.





Andrew Vye, Cyfarwyddydd Tai Gwalia
Grwp Pobl