Jump to content

25 Hydref 2013

Moneyline Wrecsam i gynnig llinell gymorth hanfodol

Mae gwasanaeth sy'n helpu pobl ar incwm isel i osgoi dod yn ysglyfaeth i siarcod benthyca ac yn cynorthwyo'r rhai sy'n wynebu problemau arian wedi dod i Wrecsam.

Agorir Moneyline Wrecsam yn swyddogol ar 25 Hydref gan Lesley Griffiths, AC Wrecsam.

Mae Moneyline yn fenter gymdeithasol dim-er-elw flaenllaw a sefydlwyd i ddarparu benthyciadau fforddiadwy a chyngor ariannol i bobl y mae benthycwyr prif ffrwd yn draddodiadol yn eu hanwybyddu.

Mae Moneyline Wrecsam yn rhan o Moneyline Cymru a hyn fydd yr wythfed safle i agor yng Nghymru a'r cyntaf yn y Gogledd. Mae safleoedd eraill yn cynnwys Moneyline Abertawe, Merthyr Tudful, Caerdydd, Pontypridd, Cwmbrân, Pen-y-bont ar Ogwr a Chasnewydd.

Mae canghennau Moneyline Cymru wedi trefnu mwy na 13,000 benthyciad yn werth mwy na £6m ers ei sefydlu yn 2009. Caiff cwsmeriaid eu hannog i agor cyfrif cynilon, gyda bron draean (cwsmeriaid y mae pobl yn dweud na allant ac na fyddant yn cynilo) yn dewis gwneud hynny - gan arbed cyfanswm o £900,000 rhyngddynt.
Agorodd safle newydd Moneyline Wrecsam i'r cyhoedd ddechrau mis Medi a hyd yma mae wedi cwblhau dros 20 benthyciad, benthyca dros £5,000 i bobl leol, gyda 75 y cant o'r cwsmeriaid hefyd yn agor cyfrif cynilo.

Sefydlwyd Moneyline Cymru gan gymdeithasau tai yng Nghymru a chaiff ei ran-ariannu ganddynt. Dywedodd Nick Bennett, Prif Weithredydd Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC), corff aelodaeth cymdeithasau tai yng Nghymru: "Bydd Moneyline Wrecsam yn cynnig llinell gymorth hanfodol i bawb sydd ei angen. Gyda'r newidiadau mewn budd-daliadau lles a gyflwynir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, mae cynnydd yn y galw am fenthycwyr llog uchel a siarcod benthyca yn gonsyrn gwirioneddol."
Dywedodd Phil Starr, Rheolydd safle Wrecsam: "Rydym yn sylweddol rhatach na'r benthycwyr llog isel sydd ar gael ar hyn o bryd ac mae ein staff yn sicrhau nad yw cwsmeriaid ond yn benthyca'r hyn y gallant ei fforddio. Fel gyda'n safleoedd eraill, mae ein cyfrifon cynilo yn llwyddiannus tu hwnt, gyda llawer o bobl yn cynilo am y tro cyntaf erioed."
Mae'r 'Dreth Ystafelloedd Gwely' a gyflwynwyd yn gynharach eleni yn effeithio ar tua 40,000 o bobl yng Nghymru, a byddant yn coli rhan o'u budd-dal tai oherwydd y bernir fod ganddynt 'ystafell sbâr'. Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y bydd tua 42,500 o bobl yng Nghymru yn colli hyd at £83 yr wythnos ar gyfartaledd yn dilyn newidiadau i'r Lwfans Byw Anabledd.
Mae sefydliadau megis Moneyline Wrecsam, undebau credyd a phartneriaid allweddol eraill yn gweithio’n galed i drin problemau a achosir gan ddiwygio lles a rhoi dewisiadau i'r bobl yr effeithir arnynt.
Ychwanegodd Nick Bennett: "Cynigir cyngor arian annibynnol i gwsmeriaid Moneyline Wrecsam - p'un ai ydynt wedi cael cynnig benthyciad ai peidio. Mae cynghorwyr arian 'Mae Budd-daliadau yn Newid', prosiect gan CHC a ariennir gan y Loteri Fawr a Dŵr Cymru, eisoes wedi cynghori dros 4,000 o gwsmeriaid a dynodi miloedd o bunnau o fudd-daliadau na chaiff eu hawlio. Maent hefyd wedi helpu cwsmeriaid i ostwng eu hôl-ddyledion dŵr dros £700,000 drwy gronfa cymorth cwsmeriaid Dŵr Cymru.
Ychwanegodd Mr Starr: "Bu'r cymdeithasau tai lleol a Chyngor Wrecsam yn gefnogol iawn gydag ehangu Moneyline Cymru i Wrecsam. Hoffwn fanteisio ar y cyfle yma i ddiolch iddynt am eu holl gefnogaeth hyd yma. Rwy'n hyderus y byddwn yn adeiladu perthynas waith gref gyda'r holl bartneriaid sy'n ein cefnogi a sicrhau fod dewisiadau go iawn heblaw benthycwyr carreg drws a benthycwyr arian anghyfreithlon."
- diwedd -

Nodiadau i'r Golygydd:
Cynhelir y lansiad swyddogol am 12 canol-dydd ar 25 Hydref. Mae Moneyline Wrecsam yn 5 Stryd y Drindod, Wrecsam LL11 1NH.
Os hoffech fod yn bresennol, cysylltwch â ni cyn gynted ag sydd modd os gwelwch yn dda.
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch ag Edwina O'Hart ar 029 20 674808, symudol 07791898497 Edwina-oHart@chcymru.org.uk