Jump to content

15 Hydref 2018

Men’s Sheds yn mynd i'r afael ag unigrwydd

Men’s Sheds yn mynd i'r afael ag unigrwydd
Dywedir fod mwy na 25% o bobl hŷn Cymru yn teimlo'n unig; gwyddom hefyd fod dynion yn fwy agored i deimladau o unigrwydd. Mae Hafan Cymru wedi cymryd camau i ostwng yr unigrwydd ac arwahanrwydd a deimlir gan ddynion drwy sefydlu Prosiect Men's Sheds Cymru.


Roedd Alan Thomas yn teimlo ar wahân yn gymdeithasol yn dilyn ymddeoliad, nes iddo glywed am Men's Sheds a dod yn rhan o grŵp eto.


Dywedodd: "Mae gan y grwpiau y fantais o fod yn gyfarfodydd cymdeithasol cyfeillgar gan roi gweithgaredd a chwmnïaeth, a hefyd fod yn ffordd wych i drafod pynciau y byddwn fel arfer yn eu hosgoi, fel teimladau o unigrwydd a thristwch am chwalfa perthynas.


Mae Men's Sheds yn ymwneud â rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned ar sail wirfoddol a mwynhau cwmni ei gilydd tra'n gweithio i'r gymuned."


Caiff unigrwydd ac arwahanrwydd bellach eu cydnabod fel ffactor bwysig mewn dirywiad mewn iechyd corfforol a iechyd meddwl ac mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi cydnabod fod Men's Sheds yn un o'r ychydig brosiectau sydd ar gael i gyflwyno help ymarferol uniongyrchol i unigolion a grwpiau.


Rydym hefyd wedi gwneud cysylltu pobl yn flaenoriaeth yn Gorwelion Tai, ein gweledigaeth ar gyfer y sector. Darllenwch fwy am ein gweledigaeth yma.


Cymerwch ran yma www.mensshedscymru.co.uk