Mae'r sector tai yng Nghymru yn darparu cartrefi a gwasanaethau ansawdd uchel, diogel a gwerth da am arian - ond mae lle i wella
Dangosodd canfyddiadau'r arolwg cenedlaethol cyntaf erioed o gymdeithasau tai Cymru fod 81% o denantiaid a gymerodd ran yn 'fodlon iawn' neu'n 'weddol fodlon' gyda'u landlord a'u cartref. Drwyddi draw, mae mwy na 70% o denantiaid yn 'fodlon iawn' neu'n 'weddol fodlon' gydag ansawdd eu cartrefi, y gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw a'r gymuned y maent yn byw ynddi, ac yn credu fod y rhent a dalant i'w landlord yn rhoi gwerth am arian.
Comisiynwyd yr arolwg boddhad tenantiaid gan Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Ei nod oedd helpu landlordiaid gyda chynllunio busnes, dynodi meysydd i'w gwella a'u galluogi i ddatblygu cyfathrebu a chysylltiadau cryfach gyda'u tenantiaid.
Mae'r canfyddiadau yn dra gwahanol i'r Big Tenant Survey a gynhaliwyd ar draws y Deyrnas Unedig, a ddangosodd lefelau boddhad isel gan denantiaid. Teimlai llai na thraean y 61,000 a gymerodd ran fod eu landlord yn gwrando ar eu pryderon. Fodd bynnag, teimlai 70% o'r rhai a holwyd ar gyfer arolwg tenantiaid Cymru fod eu landlord yn gwrando ar eu barn ac yn gweithredu ar hynny.
Roedd cyfanswm cyfun o 83.7% o ymtebwyr yn 'fodlon iawn' neu'n 'weddol fodlon' gyda'r gwasanaethau a ddarperir gan eu landlord. Roedd ychydig dros 82% o denantiaid yn 'fodlon iawn' neu'n 'weddol fodlon' gydag ansawdd cyffredinol eu cartref a theimlai 83% yn 'fodlon iawn' neu'n 'weddol fodlon' yn byw yn eu cymdogaeth.
Dengys canfyddiadau fod ychydig dros 80% o denantiaid yn 'fodlon iawn' neu'n 'weddol fodlon' gyda'r swm o rent a dalant ac yn credu ei fod yn rhoi gwerth am arian. Dywedodd ffigur cyfun o 77% o bobl eu bod yn 'fodlon iawn' neu'n 'weddol fodlon' gyda'r ffordd y mae eu landlord yn trin gwaith atgyweirio a chynnal a chadw yn eu cartref.
Cwblhawyd arolwg tenantiaid Cymru gan 6,017 o bobl a dengys fod y materion allweddol ar gyfer tenantiaid/preswylwyr yn ymwneud ag ansawdd eu cartrefi a gwaith ac atgyweiriadau cysylltiedig, yn ogystal â chael gwybodaeth gan eu landlord.
Teimlai 85% o'r rhai a holwyd yn ddiogel ac yn falch o'u cartrefi. Mae 83% yn credu fod eu landlord yn agored a theg gyda'r wybodaeth a gyhoeddant, a 76% yn fodlon bod eu landlord yn agored am yr hyn a wnânt.
Roedd tenantiaid yn gyffredinol gadarnhaol am landlordiaid Cymru, ond dangosodd canlyniadau'r arolwg fod lle i wella am dryloywder, cyfathrebu a threfniadau cwynion. Mae'r arolwg yn awgrymu y dylai landlordiaid weithio gyda thenantiaid ar y materion hyn. Dangosodd sylwadau nad yw rhai'n cael gwybodaeth reolaidd am welliannau cartrefi, cwynion (cyffredinol neu ymddygiad gwrthgymdeithasol) a materion cymdogaeth. Mae hwn yn faes lle gallai landlordiaid gynyddu eu lefel cyfathrebu.
Dywedodd dau-draean y preswylwyr (65%) y gwyddent am drefniadau cwynion Fodd bynnag, dengys y canfyddiadau fod lefel gref o anfodlonrwydd gyda chanlyniadau cwynion i landlordiaid. Roedd bron hanner (46%) y rhai a arolygwyd yn fodlon i ryw raddau gyda'r ffordd y gwnaeth eu landlord drin eu cwyn, ond roedd 38% arall yn anfodlon.
Yn ychwanegol, mae pa mor gyflym y caiff cwynion eu trin yn faes consyrn ymysg preswylwyr, yn ogystal â lefel y cyfathrebu drwy gydol y broses gwynion.
Cyn symud i'w cartrefi, caiff preswylwyr esboniad o'u hawliau fel tenantiaid yn ogystal â disgrifiad o'r cynllun dyraniadau. Teimlai dros bedwar ym mhob pump o breswylwyr yn 'fodlon iawn' neu'n 'weddol fodlon' gyda'r 'esboniad hawliau' (85%) a theimlai 86% yr un fath am 'pa mor rhwydd yw deall a chael mynediad i'r cynlluniau dyrannu'.
Canfu 70% o breswylir hi'n rhwydd cael gafael ar y person cywir wrth gysylltu â'u landlord ond cafodd 15% hi'n anodd cyrraedd y person cywir.
Roedd 36% o'r rhai a gymerodd ran yn yr arolwg yn 65 oed neu drosodd, 21% yn 55-64 oed a 32% yn 35-54 oed. Dim ond 10% o bobl 34 oed a iau lenwodd yr arolwg. Roedd oedran cyfartalog y prif breswylwyr yn y tŷ a lenwodd yr arolwg yn 58, a chwech mewn deg yn fenywod (61%).
Canfu'r arolwg fod mwyafrif y bobl yn hapus gyda'r gwasanaethau a ddarparant i bobl hŷn. Roedd cyfanswm o 91% yn fodlon gyda pha mor rhwydd yw hi i gyrraedd pob rhan o'u cartref a chynllun tai a 90% yn fodlon gyda diogelwch eu cartref. Yn yr un modd, roedd 95% o'r rhai mewn 'tai â chymorth' o blaid y gwasanaeth a ddarperir gan eu landlord.
Wrth siarad am y canfyddiadau, dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Grŵp CHC: "Drwyddi draw mae'r canfyddiadau o'r arolwg tenantiaid yn gadarnhaol. Rydym yn sector sy'n gweithio'n galed i sicrhau fod ein cartrefi a gwasanaethau o'r ansawdd uchaf. Mae canlyniadau'r arolwg hefyd wedi dangos meysydd ar gyfer gwelliannau a bydd ein haelodau yn parhau i weithio'n galed i gynyddu safonau ar gyfer eu tenantiaid."
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: "Rwy'n croesawu cyhoeddi'r adroddiad yma a'i ganfyddiadau. Mae'r arolwg cenedlaethol o fodlonrwydd yn rhoi darlun gwerthfawr o farn tenantiaid ar y gwasanaethau a ddarperir gan eu landlord a hefyd ar faterion eraill sy'n bwysig iddynt megis ymddygiad gwrthgymdeithasol a'u cymdogaeth. Bydd y canfyddiadau yn helpu i hybu gwelliannau pellach i sicrhau fod sector tai Cymru yn parhau i ddarparu cartrefi a gwasanaethau ansawdd uchel."