Jump to content

08 Tachwedd 2019

Mae'n bwysig fod pob adran yn deall pwysigrwydd y cwsmer

Mae'n bwysig fod pob adran yn deall pwysigrwydd y cwsmer
Mae Alex Wotton yn Brif Ddylunydd Gwasanaeth gyda cxpartners, ymgynghoriaeth ddylunio sydd â ffocws ar helpu cwmnïau i wir ganolbwyntio ar gwsmeriaid. Bydd yn dweud wrthym yn ein trydydd gweithdy Trawsnewid Busnes ym mis Tachwedd sut y gall helpu cymdeithasau tai i ddeall eu cwsmeriaid yn well.


"Rwy'n gweithio'n agos gyda chleientiaid sector cyhoeddus, yn defnyddio ymchwil i ddynodi anghenion y cwsmer a deall y rhesymau pam nad yw'r anghenion hynny'n cael eu cyflawni. Yn amlach na pheidio, byddwn yn gweld fod gwasanaeth yn hen-ffasiwn a heb addasu i'r newid yng ngofynion y cwsmer a hefyd y busnes.


"Nid yw sefydliadau bob amser yn deall eu cwsmeriaid, a dyna lle bydd y problemau creiddiol yn cychwyn. Mae'n bwysig fod pob adran yn deall pwysigrwydd y cwsmer, nid yn unig y rhai sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda nhw. Mae angen i ni chwalu'r seilos hynny ac adeiladu timau traws-swyddogaeth i alluogi sefydliadau i ffynnu.


"O fewn tai, byddwn yn ymchwilio os mai'r cartrefi sy'n cael eu hadeiladu yw'r cartrefi cywir ar gyfer y cwsmeriaid, os ydynt yn gynrychioladol o'n tenantiaid ac os y gall y broses ar gyfer canfod cartref addasu dros gyfnod i ddiwallu y newid yn eu hanghenion.


"Byddaf yn gweithio gyda fy nghydweithwraig Aimee i gyflwyno gweithdy sy'n canolbwyntio ar fapio empathi, yn ymchwilio nodau ac uchelgeisiau tenantiaid, a sut y gallwn addasu ein gwasanaethau i weddu."


Llofnodwch ar gyfer y gweithdy ar ddeall anghenion cwsmeriaid yma.