Jump to content

02 Chwefror 2018

Mae'n amser siarad am berthnasoedd da

Mae'n amser siarad am berthnasoedd da
Mae 1 Chwefror yn nodi diwrnod 'Amser Siarad', cynllun dan arweiniad Amser i Newid i annog pobl i siarad am iechyd meddwl.


Fel y gwelsom o'n hymgyrch iechyd Gorwelion Tai drwy gydol mis Ionawr, mae cymdeithasau tai ledled Cymru yn cynnal prosiectau i wella iechyd meddwl tenantiaid, atal unigrwydd a sefydlu rhwydweithiau cymdeithasol. Daw'r cynlluniau hyn â phobl ynghyd a hefyd helpu'r rhai sydd wedi profi anawsterau i ddatblygu hyder a sgiliau cymdeithasol.


Mae adeiladu a chynnal perthnasoedd iach - p'un ai mewn cyd-destun proffesiynol, platonig, rhamantus neu deuluol - yn rhoi hwb cadarnhaol i bobl yn eu bywydau. Yn anffodus mae llawer o bobl mewn partneriaethau gwenwynig a niweidiol, gydag ystadegau yn dangos y bydd chwarter menywod yng Nghymru a Lloegr yn profi cam-drin domestig yn ystod eu bywydau.


Dyna pam fod Hafan Cymru 'Da Gyda'n Gilydd' i ddathlu manteision perthnasoedd da. Pan gaiff dau neu grŵp o bobl eu dynodi fel bod yn 'dda gyda'i gilydd', mae'n aml yn golygu eu bod yn teimlo'n ddiogel, hapus ac yn parchu ei gilydd. Nod yr ymgyrch yw hysbysu pobl am berthnasoedd iach a chyfeirio'r rhai sydd mewn amgylchiadau anodd at wasanaethau addas ac arbenigwyr yn Hafan


Mae eu hystod eang o brosiectau a gwasanaethau yng Nghymru yn cynnwys:
  • Gwasanaeth yn ymwneud â cham-drin domestig i gefnogi menywod, dynion a'u teuluoedd sydd angen helpu i oresgyn unrhyw fath o gamdriniaeth. Mae tîm Hafan yn cefnogi pobl i ddatblygu sgiliau bywyd sy'n eu helpu i adennill eu hannibyniaeth a byw'n dda.

  • Siediau Dynion, prosiect sy'n cefnogi dynion i ffurfio grwpiau cymunedol i atala arwahanrwydd ac unigrwydd.

  • Sbectrwm, prosiect sy'n cynnig hyfforddiant mewn ysgolion i helpu plant, athrawon, staff a rhieni i ddeall pwysigrwydd perthnasoedd iach a mynd i'r afael â cham-drin domestig. Mae hyn yn sicrhau fod pawb yn gwybod ble gallant ddod o hyd i help.

  • Llety a chefnogaeth ar gyfer pobl agored i niwed gydag ystod o anghenion cymhleth (megis problemau iechyd meddwl, anableddau dysgu, problemau cyffuriau ac alcohol) i gynnal perthnasoedd iach a byw'n dda.


  • I gael mwy o wybodaeth am 'Da Gyda'n Gilydd', edrychwch ar wefan Hafan Cymru yma.