Jump to content

10 Ionawr 2018

Mae rhaglen United Welsh yn trawsnewid bywyd dyn Brynmawr

Mae rhaglen United Welsh yn trawsnewid bywyd dyn Brynmawr
Bu Mark Davies yn byw mewn ysbytai seiciatrig diogel yng Nghasnewydd a'r Fenni am wyth mlynedd. Mae gan y dyn 43 oed afiechyd meddwl sy'n effeithio ar sut mae'n gweld y byd, ei allu i gyfathrebu a ffurfio perthynas. Gan ei chael yn anodd edrych ar bobl wrth siarad â nhw a chynnal sgwrs heb ddod yn ofidus, trodd Mark - a ddaw o Frynmawr - at gamddefnyddio sylweddau i'w helpu i drin ei emosiynau a'i ymddygiad. Ymddieithriodd oddi wrth ei deulu, ac effeithiodd hynny wedyn ar iechyd meddwl ei rieni.


Yn 2015 cafodd Mark gynnig llwybr allan o'i drefniant presennol a chyfle i ddechrau bywyd newydd lle gallai ddysgu sgiliau newydd, byw'n annibynnol a gwneud ffrindiau newydd.


Ynghyd â phedwar o bobl eraill, cafodd gynnig cartref yn Heol Brynteg, cynllun tai â chymorth gyda phum fflat ym Mlaenau Gwent. Caiff y cynllun ei gyflwyno gan United Welsh mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ac mae'n helpu wrth bontio cleifion a fu'n byw mewn ward ysbyty am dymor hir yn ôl i'r gymuned.


Mae fflat Mark yn cynnwys ardal fyw a chegin, ystafell ymolchi, ystafell wely a mynediad i gefnogaeth 24-awr gan staff United Welsh, ac mae wedi rhoi annibyniaeth iddo am y tro cyntaf mewn llawer o flynyddoedd.


Ers symud i Frynteg, mae trefniadau byw annibynnol Mark a chefnogaeth gan staff wedi'i alluogi i ddatblygu sgiliau DIY i greu ei gartref cyntaf, ailgysylltu gyda'i deulu, dysgu coginio, trin arian, dechrau nofio a cherdded gan arwain at golli tair stôn o bwysau, dysgu sgiliau digidol ac ailgydio yn ei ffydd. Mae'n awr yn pregethu o flaen 70+ o bobl ac enillodd wobr tenant 'Dysgwr y Flwyddyn' yn ddiweddar.


Gwnaeth Mark gymaint o gynnydd fel y cafodd y cynlluniau gofal a thriniaeth a gydlynwyd gan Dîm Iechyd y Cymuned eu gostwng o bob tri mis i chwe mis - camp enfawr o gofio fod staff yn teimlo i ddechrau y dylai gwely ward barhau i fod ar gael i Mark.


Yn bwysig, mae'r prosiect yn galluogi staff i ddatblygu perthynas therapiwtig gyda thenantiaid i gefnogi eu hanghenion cymdeithasol, lleihau risg pwl arall o waeledd a rhyddhau gwelyau ysbyty. Arweiniodd hyn at arbedion cost ysbyty o £598,350 y flwyddyn.


Dywedodd Trudy Davies, mam Mark:


"Mae Mark yn grwt gwahanol ac mae wedi troi ei fywyd o gwmpas.


"Roedd yn edrych ymlaen gymaint at symud i'w fflat oherwydd bod ganddo nawr ei le ei hun. Fe gynilodd i brynu bwrdd a chadeiriau ac roedd yn hyfryd ei weld."


Ychwanegodd: "Dywedodd: 'hon fydd fy ystafell i!', pan gafodd yr allwedd. Roedd yn wych. Wna'i byth anghofio mor falch oedd e."