Jump to content

21 Tachwedd 2019

Mae gan Lisa nawr amgylchedd diogel a chynnes ar gyfer magu ei meibion

Mae gan Lisa nawr amgylchedd diogel a chynnes ar gyfer magu ei meibion
Ugain mlynedd yn ôl sefydlodd Cartrefi Cymunedol Cymru gynllun Gwobr i gydnabod arloesedd tai er cof am berson arbennig – Pat Chown. Rhoddodd Pat ran fawr o’i bywyd i helpu pobl eraill a threuliodd lawer o’i gyrfa yn helpu i ddiwallu anghenion tai pobl yng Nghymru.


Tai Taf yw enillwyr gwobr Pat Chown 2019. Darllenwch eu stori yma:






Mae Lisa yn fam sengl ifanc gyda phedwar mab ifanc. Yn gynharach eleni roedd yn byw mewn hostel heb fawr o eiddo nac arian yn golygu ei bod yn methu fforddio celfi i'w chartref. Nid oedd gan Lisa unrhyw gymorth ailsefydlu a gyda'i budd-daliadau i newid o gymorth incwm i Credyd Cynhwysol, roedd yn ansicr i bwy i ofyn am arweiniad.


Ar ôl cysylltu gyda Tai Taf am help, rhoddodd eu Cynghorwyr Arian gymorth i Lisa i wneud cais am ei budd-daliadau newydd a llenwi cais am Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer ei mab. Ar ôl i'r ddau gais fod yn llwyddiannus, bu cynnydd sylweddol yn incwm Lisa ac roedd yn medru talu ei rhent.


Dangosodd ymchwil gan Banel Craffu a Phrosiect Unedau Gwag Taf fod pobl ar y rhestr ddigartrefedd, ar incwm isel neu gontractau dim oriau angen pethau sylfaenol fel carpedi a llenni. Fel canlyniad, fe wnaeth Taf helpu Lisa i brynu ffwrn a chelfi newydd a hawlio gwerth £900 o nwyddau hanfodol cartref o'r Gronfa Cymorth ar Ddisgresiwn. Fe wnaeth Cronfa Caledi Taf hefyd dalu i Lisa a'i theulu am gael gosod carpedi yn eu hystafelloedd gwely.


Diolch i brosiectau Taf, mae gan Lisa bellach amgylchedd diogel a chynnes i'w phlant dyfu lan ynddo.