Jump to content

26 Medi 2019

Mae Dyma'r Sector Tai yn fyw!

Rydym ni, gan weithio gyda phob cymdeithas tai yng Nghymru, heddiw wedi lansio ymgyrch Dyma'r Sector Tai (26 Medi). Mae'r ymgyrch yn dathlu'r bobl wych sy'n gweithio i gymdeithasau tai yng Nghymru ac yn dangos yr ystod eang o swyddi sydd yn y sector.

Mae'n uchelgais gan gymdeithasau tai yng Nghymru i wneud cartref da yn hawl sylfaenol i bawb, a bwriadant adeiladu 75,000 o gartrefi newydd a chreu 150,000 o swyddi newydd erbyn 2036.

Nod Dyma'r Sector Tai yw denu sgiliau newydd i'r sector fel y gallant adeiladu'r cartrefi a'r cymunedau mae Cymru eu hangen.

Caiff bron 11,000 o bobl eu cyflogi mewn 200 o wahanol swyddi mewn cymdeithasau tai sy'n adeiladu ac yn rheoli cartrefi fforddiadwy ar gyfer 10% o boblogaeth Cymru.

Maent hefyd yn cynnig cymorth i bobl mewn amrywiaeth o amgylchiadau, yn cynnwys teuluoedd ar incwm isel, yr henoed, y rhai sy'n ffoi rhag cam-drin domestig a phobl ddigartref.

Yn 2018 gwariodd cymdeithasau tai yng Nghymru dros £445 miliwn yn gweithio gyda darparwyr iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a sefydliadau eraill ar brosiectau cymunedol.

Dywedodd Phillipa Knowles, Cyfarwyddydd Adnoddau a Datblygu Sefydliadol Cartrefi Cymunedol Cymru:

"Mae gan y sector tai cymdeithasol rôl allweddol wrth lunio dyfodol Cymru; mae'r sector yn darparu cartrefi fforddiadwy ansawdd da a chymorth i gymunedau. Mae gan gymdeithasau tai yng Nghymru weledigaeth i wneud cartref da yn hawl sylfaenol i bawb a rydym yn anelu i adeiladu 75,000 o gartrefi erbyn 2036 i sicrhau fod gan bobl gartrefi ansawdd da, diogel a chynnes i fyw ynddynt. I wneud hyn, rydym angen y sgiliau cywir yn eu lle a gobeithiwn, erbyn 2036, i fod wedi creu 150,000 o swyddi newydd fel y gallwn adeiladu'r cartrefi o safon dda a cymunedau cryf.

"Mae 65% o bobl sy'n gweithio yn y sector yn mwynhau eu swyddi oherwydd eu bod yn gwneud gwahaniaeth. Mae gan y sector ystod eang o swyddi o gyfrifeg i waith rheng flaen, ac mae'n cynnig cyfleoedd ar gyfer cynnydd a datblygu sgiliau. Er enghraifft, y llynedd gwariwyd dros £3.6 miliwn ar hyfforddiant staff a datblygu proffesiynol.

"Rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio i gymdeithas tai i ymweld â gwefan Dyma'r Sector Tai i ganfod mwy!"

Os oes gennych ddiddordeb mewn canfod mwy am swydd yn y sector tai cymdeithasol, ewch i Dyma'r Sector Tai.

Dewch o hyd i'ch swydd ddelfrydol yn swydditai.cymru, unig safle swyddi Cymru yn benodol ar gyfer swyddi yn y sector tai cymdeithasol.