Jump to content

08 Hydref 2013

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) wedi croesawu’r cyhoeddiad Rhaglen Cefnogi Pobl

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) wedi croesawu’r cyhoeddiad a wnaed cyn cyllideb heddiw y bydd y Rhaglen Cefnogi Pobl yn gweld buddsoddiad parhaus o £134.4m yn 2014/15 - gostyngiad o 1.5% ar y llynedd. Cafodd y buddsoddiad ei drin gan fesur lliniaru o £5.5m yn erbyn toriadau arfaethedig.

Gyda Gweinidogion Cymru'n paratoi i wneud penderfyniadau anodd ar refeniw, cawsant eu hannog gan CHC a sefydliadau partner i wneud popeth yn eu gallu i ddiogelu cyllideb gwasanaethau ataliol, megis y rhaglen Cefnogi Pobl, sy'n cynnig help a chefnogaeth hanfodol i filoedd o bobl ar draws Cymru.

Fe wnaethom alw ar Aelodau'r Cynulliad i ddefnyddio eu grym a'u dylanwad gwleidyddol i helpu diogelu'r gwasanaethau hollbwysig hyn a phwysleisio i Aelodau Cyllideb y byddai toriadau i'r rhaglen Cefnogi Pobl yn cael canlyniadau ariannol dilynol i gyllideb y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Fe wnaethom ysgrifennu at bob Aelod Cynulliad yn gofyn iddynt gefnogi'r Datganiad Barn trawsbleidiol a gyflwynwyd gan Lynne Neagle, gyda chefnogaeth Peter Black, Mark Isherwood a Bethan Jenkins ar ddiogelu cyllideb Cefnogi Pobl.

Gan weithio gyda Gofal Cymru, Cymorth Cymru, Gofal a Thrwsio, CIH Cymru, Y Wallich ac Anabledd Cymru fe wnaethom ysgrifennu llythyr agored i'r wasg yn annog Aelodau Cynulliad i gefnogi'r Datganiad Barn. Ymddangosodd y llythyr hwn yn y Western Mail fel y prif lythyr ddydd Iau diwethaf.

Fe wnaethom hefyd roi llythyr templed i chi, gan eich annog i gysylltu â'ch AC lleol i roi sylw i'r agenda ataliol yn lleol.

Teimlwn i'n gwaith ar eich rhan arwain at i Lywodraeth Cymru ymateb i'n galwadau i fuddsoddi mewn cefnogaeth ataliol. Mae eu penderfyniad cyllideb yn cydnabod fod y gwasanaethau a ddarperir yn amhrisiadwy ac yn yr hir dymor mewn gwirionedd yn arbed arian i'r GIG a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Wrth siarad am y newyddion, dywedodd Nick Bennett ar ran CHC: "Gyda'r Cynulliad Cenedlaethol yn wynebu rhai o'r penderfyniadau cyllideb anoddaf yn ei hanes, galwodd CHC ar Aelodau Cynulliad i ddefnyddio eu grym a'u dylanwad gwleidyddol i helpu diogelu gwasanaethau hollbwysig ac fe wnaethom wrando arnom.

"Mae'r Rhaglen Cefnogi Pobl yn helpu 56,000 o bobl i fyw'n annibynnol ac yn ariannu amrywiaeth o wasanaethau cymorth i bobl anabl, cyn aelodau'r lluoedd arfog, rhai gyda phroblemau iechyd meddwl neu gorfforol, pobl ifanc a phobl hŷn a'r digartref.

"Byddai toriadau sylweddol i gyllideb y rhaglen Cefnogi Pobl wedi cael effaith enfawr ar fywydau cynifer o bobl ac yn y pen draw wedi costio cymaint mwy i'r GIG a Gwasanaethau Cymdeithasol.

"Mae cyhoeddiad heddiw'n golygu fod Llywodraeth Cymru wedi parhau i gynnal eu lefelau da o wario ar wasanaethau ataliol, sy'n dangos yn glir fod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod gwir werth y gwasanaethau hyn."


Gweler islaw am y cyhoeddiad http://wales.gov.uk/newsroom/finance1/2013/7941189/?lang=cy