Jump to content

05 Chwefror 2021

Mae Cartrefi Conwy yn bartner allweddol yn yr ymdrech i ddod â digartrefedd i ben yng Ngogledd Cymru

Mae Cartrefi Conwy yn bartner allweddol yn yr ymdrech i ddod â digartrefedd i ben yng Ngogledd Cymru

Ni fu ble’r ydym yn byw erioed yn bwysicach i sut ydym yn byw. Mae maniffesto Cartref yn rhoi sylw i rai o’r heriau allweddol sy’n wynebu’r sector, gyda chymdeithasau tai wedi ymrwymo i weithio law yn llaw gyda Llywodraeth Cymru yn dilyn yr etholiad i adeiladu cymunedau iachach, mwy llewyrchus a gyda chysylltiadau gwell, ynghyd ag ymrwymiad i gyrraedd targedau dim carbon. Rhan o’r ymrwymiad hwnnw yw dod â digartrefedd i ben.


Mae Cartrefi Conwy yn gweithio law yn llaw gyda Chyngor Conwy i fynd i'r afael â digartrefedd yn y sir. Darllenwch fwy am eu gwaith yma:


"Mae Partneriaeth Datrysiadau Tai Conwy rhwng Cartrefi Conwy a Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy bellach wedi bod yn rhedeg am bum mlynedd. Mae'n cynnwys ystod o wasanaethau gan gynnwys atal digartrefedd, asiantaeth gosod cymdeithasol, gwasanaeth llety dros dro a rheoli'r gofrestr dai. Rydym yn falch ein bod wedi datblygu hyn ymhellach mewn ymateb i effaith y pandemig ac yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru na ddylai unrhyw un sy'n cysgu allan ddychwelyd i'r stryd.


"Yn 2020 fe wnaethom atal datblygiad cynllun adfywio sylweddol yng Nghonwy i alluogi deuddeg teulu i symud allan o lety Gwely a Brecwast a / neu argyfwng anaddas, a gwneud defnydd o’r cartrefi gwag. Mae'r holl denantiaid nawr yn derbyn cymorth sgiliau gwaith, dysgu a chyflogadwyedd.


"Rydym eisoes wedi arwyddo a darparu llety drwy’r cynllun ‘Housing First’ sy’n lletya pobl sy’n cysgu allan. Rydym wedi cytuno i adael 50% o'r gartrefi sydd ar gael i aelwydydd digartref i gefnogi ymateb COVID-19. Rydym hefyd newydd gwblhau gwaith ar wyth eco-gartref modiwlaidd un person ar gyfer cartrefi digartref yng Nghonwy ac yn dod â 10 cartref gwag yn ôl i ddefnydd bob blwyddyn yng Nghonwy a Sir Ddinbych ar gyfer tai fforddiadwy.


"Mae cydweithwyr wedi dod at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth ac arian mawr ei angen ar gyfer gwasanaethau digartref yng Ngogledd Cymru. Yn gynnar yn 2020, ymunodd ein cydweithwyr â Clwyd Alyn i gymryd rhan i godi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd yn ogystal â chodi arian mawr ei angen yn y Big Sleep Out, gan gysgu a'r y strydoedd rhwng 10yh a 6yb y bore nesaf. Y nod oedd codi ymwybyddiaeth o faterion digartrefedd, codi arian mawr ei angen ar gyfer elusennau lleol ac ar gyfer cyfranogwyr i gael gwell dealltwriaeth o'r hyn y mae pobl ddigartref yn delio ag ef bob nos. Codwyd £7,000 ar gyfer ariannu gwasanaethau digartrefedd lleol.”


Darganfyddwch mwy am maniffesto Cartref yma.