Mae brandiau yn meddyliau'r defnyddwyr...
Mae'n debyg ein bod i gyd wedi dod ar draws busnes sydd â brandio hardd, marchnata perffaith, rydych yn teimlo'n gyffrous ac yn cael y teimlad cynnes hwnnw pan fyddwch yn prynu cynnyrch neu wasanaeth ganddynt, a gwyddoch y bydd yn brofiad gwych oherwydd eich bod yn ymddiried ynddynt.
Ac wedyn ... rydych yn dihuno o'ch breuddwyd. Rydych yn teimlo wedi'ch bradychu, yn ddryslyd, wedi'ch siomi ... PAM? Oherwydd eu bod yn pryderu mwy am gael y cwsmer/cleient/gwerthiant newydd hwnnw nag edrych ar ôl anghenion eu cwsmeriaid presennol.
Yr hyn mae brandiau gwych yn ei ddeall yw ei fod am y profiad cyfan o i gwsmeriaid. Mae marchnata a gwasanaeth gwych, hyd yn oed pan fyddant wedi prynu gennych, yn allweddol. Bydd y rhan fwyaf o bobl gyda chrebwyll busnes yn gwybod ei bod yn llawer haws maethu a gofalu ar ôl cwsmeriaid presennol iddynt brynu gennych eto yn hytrach na denu rhai newydd. Bydd eich cwsmeriaid presennol yn dechrau gwneud y gwaith caled drosoch drwy eich argymell i bobl eraill.
Argymhellion personol yw'r dull mwyaf effeithlon o farchnata a dim ond pan fo gennych gwsmeriaid hapus y byddwch yn cael argymhellion personol. Dengys ymchwil fod 90% o bobl yn ymddiried mewn argymhellion defnyddwyr, hyd yn oed gan bobl nad ydyn nhw'n eu hadnabod (ffynhonnell: https://business.experticity.com/the-psychology-of-brand-trust-influencer-marketing/)
Gallech ddadlau faint o reolaeth sydd gennych mewn gwirionedd dros eich brand? Wedi'r cyfan, allwch chi ddim rheoli sut mae pobl eraill yn feddwl neu deimlo. Efallai ddim, ond mae gwir ddeall eich cwsmeriaid a phwy ydynt yn rhoi cyfle i chi ddylanwadu am eich canfyddiad am eich brand yn ei gyfanrwydd.
Sut ydych chi'n cyflwyno'r cynnyrch/gwasanaeth? Sut mae'r cwsmer yn ei dderbyn? Gall cyffyrddiadau ychwanegol bach wneud gwahaniaeth enfawr. Ydych chi'n dilyn lan gyda galwad ffôn yn sicrhau fod popeth yn iawn? Ydych chi'n anfon e-bost atynt, i sicrhau eu bod yn hapus gyda'r cynnyrch/gwasanaeth? Ydych chi'n cynnwys nodyn diolch yn fawr ar eich anfoneb?
Dywedodd Jeff Bezos, sefydlydd Amazon, "Eich brand yw'r hyn mae pobl yn ei ddweud amdanoch pan nad ydych yn yr ystafell."
Mae eich brand yn set o syniadau y mae cwmni neu gynnyrch yn sefyll drostynt ym meddyliau pobl, a chaiff hynny ei lunio gan eich gweithredoedd.
Am beth mae'ch brand yn sefyll?
Gwnewch hi'n rhwydd i'ch cwsmeriaid eich dewis chi a byddwch ymhell ar eich ffordd i greu llwyth o lysgenhadon brand!
Carolyn Pearse
Ymgynghorydd Brand a Steliydd , Carolyn Louise Limited
Peidiwch colli dosbarth meistr Carolyn yn ein Cynhadledd Cyfathrebu ar 25 Ionawr 2018! Archebwch eich lle yma: https://chcymru.org.uk/en/events/view/2018-communications-conference