Jump to content

02 Mehefin 2016

Llywodraeth Cymru yn ymrwymo 20,000 pellach o dai fforddiadwy

Heddiw (1 Mehefin) ymrwymodd Carl Sargeant, Ysgrifennydd Cabinet Cymunedau Plant, i ddarparu 20,000 pellach o dai fforddiadwy yn ystod tymor hwn y llywodraeth.

Daeth y cyhoeddiad yn ystod ymweliad yr Ysgrifennydd Cabinet i ddatblygiad Hen Orsaf Dân United Welsh ym Margoed. Bydd y datblygiad o 22 o fflatiau a thai newydd yn cyfrannu at darged tai Llywodraeth Cymru.

Wrth siarad am y newyddion dywedodd Aaron Hill, Rheolydd Materion Cyhoeddus Cartrefi Cymunedol Cymru: "Croesawn gyhoeddiad Carl Sargeant heddiw bod Llywodraeth Cymru yn gosod targed o 20,000 o gartrefi newydd yn ystod tymor hwn y llywodraeth. Mae cymdeithasau tai ar y targed i gyrraedd y targed blaenorol o 10,000 ac mae'r sector yn barod am her darparu 20,000 o gartrefi, gan weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ar y blaenoriaethau ym maniffesto CHC. Rydym yn sector uchelgeisiol ac yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Ysgrifennydd Cabinet i ddarparu mwy o gartrefi ar gyfer pobl Cymru."