Jump to content

20 Mawrth 2020

Llywodraeth Cymru i ddarparu £10 miliwn ar gyfer cymorth argyfwng

Rydym yn falch i weld fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu £10 miliwn ar gyfer cymorth argyfwng i bobl sy’n cysgu ar y stryd yn ystod yr achosion o Coronafeirws (COVID-19).

Gweler ein datganiad llawn islaw.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:

“Ni ddylai neb fod heb loches cynnes a diogel. Mae cymdeithasau tai yn gweithio’n ddiflino bob dydd i sicrhau fod gan bobl fynediad i’r gwasanaethau a’r gefnogaeth maent eu hangen ac mewn argyfwng, mae’n hanfodol y caiff hyn ei wneud mor gyflym a syml ag sydd modd.

“Croesawn gynlluniau Llywodraeth Cymru i sicrhau fod gan gynghorau y cyllid a’r grym i gefnogi pobl, beth bynnag eu hamgylchiadau yn ystod y cyfnod ansicr ac anodd iawn yma.”