Jump to content

13 Ionawr 2020

Llesiant Cymunedol yn cefnogi pobl yng Nghaerdydd

Llesiant Cymunedol yn cefnogi pobl yng Nghaerdydd
Mae gwasanaeth Llesiant Cymunedol gan United Welsh yn darparu cymorth llesiant wedi'i gydlynu i bobl ar draws Caerdydd.


Mae Zarqa Hussain yn Uwch Hwylusydd Llesiant gyda United Welsh. Dywedodd:


"Gwyddom fod llawer o bethau yn gallu effeithio ar iechyd a llesiant y bobl a gefnogwn, o unigrwydd hyd at bryderon am arian neu ymdopi gyda chyflwr iechyd.


"Mae Llesiant Cymunedol yn creu llwybr cefnogaeth ar gyfer pobl i wella eu sefyllfa a chyflawni eu nodau drwy arweiniad un-i-un; cyflwyniadau i wasanaethau lleol neu help i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol.


"Mae gennym gysylltiad gyda dros 100 o grwpiau cymunedol, darparwyr gwasanaeth a grwpiau diddordeb ledled Caerdydd, felly rydym mewn sefyllfa dda i gysylltu pobl gyda gweithgareddau lleol.


"Mae Llesiant Cymunedol yn cefnogi pobl ar draws y ddinas, yn cynnwys tenantiaid United Welsh, a gall unrhyw un gyfeirio eu hunain at y gwasanaeth. Gall sefydliadau partner hefyd wneud atgyfeiriadau ar ran rhywun.


Mae ein tîm o Hwyluswyr Llesiant yn helpu pobl gydag amrywiaeth o faterion yn cynnwys:
  • Canfod hobïau a diddordebau i gysylltu pobl gyda'r hyn maent yn ei fwynhau

  • Pryderon cymdeithasol tebyg i iechyd, dyledion, budd-daliadau, gwaith a theulu

  • Gwella iechyd corfforol

  • Gostwng arferion niweidiol tebyg i gyffuriau, alcohol, ysmygu neu gamddefnyddio sylweddau

  • Iechyd meddwl lefel isel

  • Arwahanrwydd ac unigrwydd


Cyflwynir y rhaglen ar ran Cyngor Caerdydd gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n manteisio o Hwylusydd Gwirfoddoli a Gweithgareddau a gyflogir gan Gyngor Trydydd Sector Caerdydd i recriwtio a chefnogi gwirfoddolwyr a grwpiau partneriaeth.


Mwy o wybodaeth yma: www.unitedwelsh.com/communitywellbeing