Lansio fframwaith i gefnogi iechyd a diogelwch mewn tai
Bydd fframwaith newydd a lansiwyd heddiw (17 Mehefin 2020) yn cefnogi cymdeithasau tai i gyflawni a chynnal ymagwedd dryloyw at faterion iechyd a diogelwch gyda’u preswylwyr. Pwyll Piau Hi mewn Tai yw’r fframwaith cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig, a chafodd ei ddatblygu mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru.
Bydd Pwyll Piau Hi mewn Tai yn cefnogi datblygu strategaeth ymgysylltu diogelwch yn seiliedig ar dair egwyddor greiddiol: bod yn dryloyw, bod yn agored a bod yn atebol. Bydd y fframwaith yn rhoi hyblygrwydd i gymdeithasau tai i gefnogi eu tenantiaid a sicrhau amgylcheddau cartref diogel ac iach, yn y ffordd fwyaf addas ar gyfer diwylliant ac arferion eu sefydliad.
Drwy gytuno i Pwyll Piau Hi mewn Tai, mae cymdeithasau tai yn ymrwymo i sicrhau tryloywder gyda phreswylwyr a rhanddeiliaid ar faterion iechyd a diogelwch. Mae’n sicrhau fod proses yn ei lle i roi gwybodaeth berthnasol a dealladwy ar iechyd a diogelwch i breswylwyr.
Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth ar larymau mwg, cyngor allweddol ar ddiogelwch tân, strategaeth ar wagu adeiladau os oes tân, tystysgrifau diogelwch nwy, gwybodaeth ar asbestos a gwybodaeth am ddiogelwch trydanol. Mae’r fframwaith hefyd yn ymrwymo cymdeithasau tai i roi manylion sut i gael mwy o wybodaeth ar annedd, gan sicrhau fod gwybodaeth a chyngor yn rhoi ystyriaeth i wahanol anghenion preswylwyr ac yn rhoi proses glir ar gyfer pryderon a chwynion.
Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:
“Mae diogelwch tenantiaid yn hollbwysig ar gyfer cymdeithasau tai ac maent yn gweithio’n ddiflino er mwyn cynnal y safonau uchaf posibl. Fodd bynnag, fe wnaeth y digwyddiadau trchinebus yn Grenfell hi’n glir pam fod ymgysylltu gwirioneddol dwy-ffordd gyda thenantiaid mor bwysig, a’r hyn y gall y canlyniadau fod os esgeulusir hyn. Mae’r fframwaith yn gam pwysig mewn sicrhau dialog parhaus rhwng cymdeithasau tai a phreswylwyr a byddwn yn ei adolygu’n gyson i sicrhau y caiff tenantiaid eu cefnogi ar faterion iechyd a diogelwch yn y ffordd fwyaf effeithlon.”
Darllenwch yma.