Jump to content

21 Medi 2016

Lansio Canllawiau Arfer Da ar Waith Mawr ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol a Lesddeiliaid yng Nghymru

Cafodd canllaw newydd i sicrhau fod landlordiaid cymdeithasol a lesddeiliaid yn parhau ar delerau da yn ystod gwaith adnewyddu sylweddol ei lansio gan Lynne Neagle AC yng Nghaerdydd.

Mae nifer o landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru wrthi'n gwneud gwaith sylweddol i wella safon a chyflwr eu stoc tai presennol i gydymffurfio gyda Safon Ansawdd Tai Cymru. Mae peth o'r gwaith hwn mewn blociau uchel lle mae rhai preswylwyr wedi prynu eiddo lesddaliad ac y gallant fod yn wynebu taliadau gwasanaeth uwch i dalu am y gwaith.

Mae'r canllaw a gynhyrchwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) a'r Gwasanaeth Cynghori Lesddaliad (LEASE) yn anelu i roi cyngor i landlordiaid ar fod yn deg a chyson wrth drin gwaith mewn blociau'n cynnwys eiddo lesddaliad ac mae'n cynnwys opsiynau i'w cynnig i gynorthwyo lesddeiliaid i ledaenu'r taliad ar gyfer gwaith mawr yn ogystal â phroses adolygu annibynnol ar gyfer datrys anghydfod.

Bydd fersiwn cryno o'r canllaw a anelwyd at lesddeiliaid yn helpu i esbonio beth yw gwaith mawr, goblygiadau cyfreithiol landlordiaid iddynt, beth yw'r arfer gorau ar gyfer gwneud gwaith a'u hawliau yng nghyswllt ymgynghori a chymryd rhan yn y broses.

Dywedodd Carl Sargeant, Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant: "Mae'n anochel y bydd gwaith mawr i flociau o fflatiau yn ymyrryd ar breswylwyr ond mae'n wirioneddol bwysig fod landlordiaid cymdeithasol yn sicrhau fod y gwaith yn addas a bod y costau yn deg a chymesur. Bydd y canllaw hwn yn helpu landlordiaid i ddeall eu hawliau a'u cyfrifoldebau wrth wneud rhaglenni gwaith mawr a bydd yn rhoi gwybodaeth i lesddeiliaid am yr hyn sydd ei angen ganddynt. Bydd yn arf gwerthfawr wrth gynnal cysylltiadau da rhwng landlordiaid a lesddeiliaid ac yn helpu i sicrhau lleihau unrhyw anghydfod."

Dywedodd y Cyng Dyfed Edwards (Gwynedd), Llefarydd Tai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Mae landlordiaid cymdeithasol yn buddsoddi'n sylweddol i wella ansawdd a chyfenwad cartrefi ym mhob rhan o Gymru. Fel rhan o'r broses yma mae'n hanfodol ein bod yn parhau i rannu arfer gorau er mwyn helpu landlordiaid a lesddeiliaid i wybod yn union beth i’w ddisgwyl pan fydd gwaith mawr yn mynd rhagddo."

Meddai Hayley MacNamara, Rheolydd Polisi a Rhaglenni CHC: "Bydd y canllawiau hyn yn arf gwerthfawr iawn i'n haelodau yn eu gwaith beunyddiol wrth iddynt barhau i ddarparu gwasanaethau tryloyw ac effeithlon o ran cost i'w lesddeiliaid a gostwng anghydfod ar gostau gwaith mawr."

Ychwaegodd Anthony Essien, Prif Weithredydd LEASE "Pan gafodd y prosiect hwn ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru gwnaethpwyd hi'n glir mai'r canlyniad ddylai fod canllaw oedd yn sicrhau bod landlordiaid yn cysylltu ac yn ymgynghori'n iawn gyda lesddeiliaid a bod tryloywder yn y broses ar gyfer gwaith mawr. Mae'r hyn a gafodd ei greu gennym nid yn unig yn cyflawni'r amcan hwnnw, yn neilltuol oherwydd cyfranogiad lesddeiliaid, ond mae'n ei gwneud yn amlwg y gall lesddeiliaid, landlordiaid, llywodraeth ac eraill yn cydweithio fel partneriaid wneud gwelliannau go iawn i'r holl sector."

Fel rhan o'r prosiect, mae LEASE hefyd yn darparu dau opsiwn arall ar gyfer datrys anghydfod - Mediation ac ENE - gyda golwg ar helpu i ddatrys anghydfod am waith mawr cyn i'r materion gynyddu i'r Tribiwnlys Prisiant Lesddeiliaid. Bydd tudalen arbennig ar wefan LEASE ar gyfer y rhain ynghyd â'r holl ffurflenni cais perthnasol. www.lease-advice.org/Wales

Mae dolen i ganllaw Landlordiaid ar Waith Mawr yma a chanllaw Lesddeiliaid ar waith mawr yma.