Lansio Adroddiad Ddatgarboneiddio
Mae Grŵp Cynghori ar Ddatgarboneiddio Cartrefi yng Nghymru heddiw (18 Gorffennaf) wedi lansio ‘Cartrefi Gwell, Cymru Gwell, Byd Gwell'. Mae'r adroddiad yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar y ffordd orau i ddarparu rhaglen hirdymor o welliannau tai i gyrraedd targedau datgarboneiddio Cymru.
Daeth newid yn yr hinsawdd yn flaenoriaeth cynyddol bwysig i wleidyddion a'r cyhoedd ym mhob rhan o'r byd ac roedd Llywodraeth Cymru yn un o'r cyntaf i ddatgan argyfwng hinsawdd ym mis Ebrill 2019. Gosododd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 darged o ostwng allyriadau carbon gan o leiaf 80% erbyn 2050; ym mis Mehefin 2019, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru y targed gostwng newydd o 95% a argymhellwyd gan Bwyllgor y Deyrnas Unedig ar Newid Hinsawdd (UKCCC) a nodi uchelgais i gyflawni carbon sero net erbyn 2050.
Mae gan gymdeithasau tai yng Nghymru weledigaeth o Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb, ac maent yn rhannu uchelgais Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio cartrefi.
Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:
"Mae ymrwymiad 30 mlynedd i ostwng yr allyriadau carbon o holl anheddau Cymru yn argymhelliad beiddgar yn yr adolygiad yma a rydym yn croesawu hynny. Fel mae'r adroddiad yn cydnabod, ni fydd hyn yn rhwydd. Bydd angen lefelau enfawr o fuddsoddiad gan y llywodraeth a thrawsnewid y ffordd yr ydym yn adeiladu ac yn adnewyddu cartrefi er mwyn ateb yr her.
"Fel rhan o'n gweledigaeth o Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb, mae cymdeithasau tai wedi ymrwymo i adeiladu cymunedau gwyrddach ac yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol i gyflawni hyn.".
Darllenwch ein papur gwybodaeth fanwl sy'n crynhoi'r argymhellion a gosod y camau nesaf ar gyfer yr agenda datgarboneiddio.
Byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag aelodau, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill wrth i ni ymchwilio sut y gallwn ni fel sector sicrhau cartrefi fforddiadwy, cysurus a dim carbon i'n tenantiaid.