Jump to content

04 Gorffennaf 2013

Lansio Adeiladu Menter - 6 Awst

Fe'ch gwahoddir yn gynnes i lansiad Adeiladu Menter yn yr Eisteddfod Genedlaethol am 1:45pm ddydd Mawrth 6 Awst. Mae Adeiladu Menter yn brosiect a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd a ddatblygwyd i wella mynediad i wasanaethau allweddol drwy ddatblygu gwasanaethau menter gymdeithasol o fewn yr asedau cymunedol sy'n bodoli yn y sector tai. Bydd ein thema ar gyfer yr Eisteddfod, ynghyd gyda'n partneriaid ar y stondin, yn canolbwyntio ar rôl ehangach tai yn economi Cymru ac effaith gadarnhaol hynny ar gymunedau ledled Cymru. Mae'r prosiect yn enghraifft flaengar o'r rôl ehangach hon ac edrychwn ymlaen at lansio Adeiladu Menter yn swyddogol yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd Jane Hutt AC, Gweinidog Cyllid, yn bresennol yn y lansiad. Byddem yn ddiolchgar pe medrech ddosbarthu'r gwahoddiad isod i aelodau eich bwrdd, partneriaid, cysylltiadau menter gymdeithasol a chynghorwyr lleol, ac anfon e-bost at events@careandrepair.org.uk i gadarnhau os gallwch fod yn bresennol. Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y digwyddiad.

Lansio Adeiladu Menter - Gwahoddiad