Jump to content

15 Mehefin 2020

Iechyd a thai yn dod ynghyd yn erbyn Covid-19

Iechyd a thai yn dod ynghyd yn erbyn  Covid-19
Mae Adra, darparwr tai yng ngogledd Cymru sydd â’u pencadlys ym Mangor, wedi cydweithio’n llwyddiannus gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gynyddu profion Covid-19 yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Yma mae Iwan Trefor Jones, Dirprwy Brif Weithredwr Adra, yn esbonio sut y lluniwyd y bartneriaeth a’r budd a gafodd y ddwy sir:

“Ar ôl buddsoddi’n ddiweddar mewn technoleg newydd i gefnogi gweithio o bell, fe wnaeth y newid i gael staff i weithio o’u cartrefi o ganlyniad i Lock Down weithio’n dda iawn i ni. Roedd hyn yn golygu y daeth ein prif swyddfeydd ym Mharc Menai, Tŷ Coch, Bangor yn wag cyn gynted ag y cyhoeddwyd y cyfyngiadau symud.

Rydym wedi gweithio i ddatblygu perthynas waith dda i gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, sydd wedi cynnwys nifer o brosiectau cyffrous mewn technoleg arloesol a llety i weithwyr allweddol.

Mae Parc Menai yn leoliad delfrydol o ran cynllun ac agosatrwydd at rwydweithiau ffyrdd ac Ysbyty Gwynedd, felly tua 10wythnos yn ôl, buom yn gweithio gyda’r bwrdd iechyd i drawsnewid y swyddfa yn safle profi Covid-19 ar gyfer gweithwyr y GIG a staff awdurdodau lleol, ac mae dros 400 o weithwyr allweddol yng Ngwynedd ac Ynys Môn nawr yn cael eu profi ar sail wythnosol.

Mae hyn yndangos beth allwn gyflawni a sut y gallwn ychwanegu gwerth pan ydan ni’n cydweithio gyda sefydliadau eraill.

Mae pawb yn Adra mor falch ein bod wedi gallu rhoi safle i’r GIG gynnal eu gwaith hanfodol, tra’n bod ni yn medru gweithio o’n cartrefi.”