Jump to content

01 Mawrth 2019

Iaith Tai

Iaith Tai
Pan oeddwn yn eistedd mewn cyfarfod yn gwrando ar rywun yn dweud brawddeg gyda'r rhan fwyaf o'r geiriau yn acronymau, sylweddolais pa mor llethol y gall yr eirfa, acronymau, byrfoddau a chyfeirio at y llythrennau cyntaf yn unig fod.


Maent i'w cael ym mhob sector a gall fod yn iaith ynddo'i hun. Un sy'n rhaid i chi ei dysgu fel y gallwch ddarllen erthyglau, gwybod beth sy'n digwydd mewn cyfarfodydd neu gael sgyrsiau sy'n cymryd dwywaith hirach nag sydd raid, ond gall meddwl am ddysgu'r holl jargon newydd eich dychryn os ewch i weithio mewn sector newydd neu hyd yn oed symud i faes gwahanol o fewn sector eich dychryn.


Os ydych yn ystyried dechrau ar yrfa yn y sector tai ac wedi dod ar draws y blog yma, neu'n symud i swydd wahanol, yna gwnewch nodyn o'r dudalen hon a gall fod yn arf gwerthfawr i'w gael wrth eich ochr!


*Gan mai sefyll am eiriau Saesneg mae bron y cyfan o'r acronymau hyn, mae'r geiriau Saesneg cyfatebol hefyd wedi eu cynnwys mewn llythyrau italig. Mae gwefan Byd Term Cymru yn ffynhonnell ardderchog ar gyfer fersiwn Cymraeg termau swyddogol a theitlau dogfennau Llywodraeth Cymru.*


AC: Aelod Cynulliad
ACG: Acceptable Cost Guidance - Canllaw Cost Derbyniol
AHP: Affordable Housing Programmes - Rhaglen Tai Fforddiadwy
AHR: Affordable Housing Review - Adolygiad o Dai Fforddiadwy
APA: Alternative Payment Arrangement - Trefniant Talu Amgen (er enghraifft MPTL)
AST: Assured Shorthold Tenancy - Tenantiaeth Ffyrddaliol Sicr
CCRCD: Cardiff Capital Region City Deal - Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
CEW: Constructing Excellence in Wales - Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru
CHC: Cartrefi Cymunedol Cymru
CIL: Community Infrastructure Levy - Ardoll Seilwaith Cymunedol
CPO: Compulsory Purchase Order - Gorchymyn Prynu Gorfodol
DHP: Discretionary Housing Payment - Taliad Disgresiwn at Gostau Tai
DQR: Development Quality Requirements - Gofynion Ansawdd Datblygu
DWP: Department for Work & Pensions - Adran Gwaith a Phensiynau
FOI: Freedom of Information - Rhyddid Gwybodaeth
FMB: Federation of Master Builders - Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr
GDPR: General Data Protection Regulations - Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data
GPDO: General Permitted Development Order - Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir
HA: Housing Association (Registered Social Landlord) - Cymdeithas Tai (Landlord Cymdeithasol Cofrestredig)
HBF: Home Builders Federation - Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi
HFG: Housing Finance Grant - Grant Cyllid Tai
HHSRS: Housing Health and Safety Rating System - System Graddio Iechyd a Diogelwch Tai
HMO: Houses in Multiple Occupation - Tai Amlfeddiannaeth
HNI: Housing Needs Indicator - Dangosydd Anghenion Tai
HO: Housing Officer - Swyddog Tai
HRA: Housing Revenue Account - Cyfrif Refeniw Tai
HRA: Housing Revenue Grant - Grant Refeniw Tai
HSG: Housing Support Grant - Grant Cymorth Tai
IHP: Innovative Housing Programme - Rhaglen Tai Arloesol
IIF: Innovation and Investment Fund - Cronfa Arloesi a Buddsoddi
IWA: Institute of Welsh Affairs - Sefydliad Materion Cymreig
LA: Local Authority - Awdurdod Lleol
LCHO: Low Cost Home Ownership - Perchentyaeth Cost Isel
LDO: Local Development Order - Gorchymyn Datblygu Lleol
LDP: Local Development Plan - Cynllun Datblygu Lleol
LHA: Local Housing Allowance - Lwfans Tai Lleol
LHMA: Local Housing Market Assessment - Asesiad o'r Farchnad Tai Leol
LPAs: Local Planning Authorities - Awdurdodau Cynllunio Lleol
LSVT: Large Scale Voluntary Transfer - Trosglwyddo Gwirfoddol ar Raddfa Fawr
MMC: Modern Methods of Construction - Dulliau Modern o Adeiladu
MPTL: Managed Payment To Landlord - Taliad wedi'i Reoli i'r Landlord (math o APA)
NDF: National Development Framework - Fframwaith Datblygu Cenedlaethol
NoSP: Notice Seeking Possession - Hysbysiad Ceisio Meddiant
OSM: Off Site Manufacturing - Gweithgynhyrchu Ymaith o'r Safle
PFI: Private Finance Initiative - Menter Cyllid Preifat
PRS: Private Rented Sector - Sector Rhent Preifat
RCC: Regional Collaborative Committee - Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol
RPB: Regional Partnership Board - Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
RSL: Registered Social Landlord (Housing Association) - Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (Cymdeithas Tai)
SDG: Strategic Delivery Group - Grŵp Cyflenwi Strategol
SDP: Strategic Development Plan - Cynllun Datblygu Strategol
SP: Supporting People - Cefnogi Pobl
SpAd: Special Advisor - Cynghorydd Arbennig
SHG: Social Housing Grant - Grant Tai Cymdeithasol
SRS: Social Rented Sector - Sector Rhent Cymdeithasol
SUDS: Sustainable Urban Drainage System - System Draeniad Trefol Cynaliadwy
TAN: Technical Advice Note - Nodyn Cyngor Technegol
TCPA: Town and Country Planning Act - Deddf Cynllunio Tref a Gwlad
UC: Universal Credit - Credyd Cynhwysol
VfM: Value for Money - Gwerth am Arian
WAO: Welsh Audit Office - Swyddfa Archwilio Cymru
WBFGA: Wellbeing of Future Generations Act - Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
WERU: Welsh Economy Research Unit - Uned Ymchwil i Economi Cymru
WHCS: Welsh Housing Conditions Survey - Arolwg Cyflwr Tai Cymru
WHQS: Welsh Housing Quality Standards - Safonau Ansawdd Tai Cymru
WLGA: Welsh Local Government Association- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru