Jump to content

20 Hydref 2014

Hyrwyddwr tai pobl hŷn yn ymladd tlodi tanwydd

Mae mwy o bobl yn marw fel canlyniad i'r oerfel ym Mhrydain bob blwyddyn nag sydd o ddamweiniau ffordd.

Er bod nifer o gynlluniau yn cynnwys Taliadau Tanwydd, Disgownt Cartrefi Cynnes, ECO, Nyth ac Arbed, mae dryswch am beth sydd ar gael ac nid ydynt yn cyrraedd y rhai sydd fwyaf ei angen.

Dyna farn Care & Repair Cymru, hyrwyddwr tai pobl hŷn sydd heddiw'n galw ar y llywodraeth i fynd i'r afael ag un o laddwyr mwyaf ein cymdeithas yn ystod y gaeaf - tlodi tanwydd.

Dengys ffigurau fod 140,000 o aelwydydd pensiynwyr yng Nghymru mewn tlodi tanwydd, yn golygu eu bod yn gwario mwy na 10% o incwm eu haelwyd ar gostau tanwydd.

Dywedodd Chris Jones, Prif Weithredydd Care & Repair Cymru: "Roedd bron 2,000 o farwolaethau ychwanegol y gaeaf yng Nghymru yn 2012/13, gyda'r mwyafrif ymysg pobl 75 oed a throsodd. Nid yw hyn yn ddigon da.

"Mae llawer o bobl hŷn yn gorfod gwneud penderfyniad anodd am p'un ai i dwymo eu cartrefi neu fwyta - mae'r sefyllfa yn wirioneddol mor wael â hynny ar gyfer llawer o bobl hŷn ledled Cymru."

I helpu codi ymwybyddiaeth am yr help sydd ar gael, mae Care & Repair Cymru yn rhedeg ei ymgyrch 'Ymladd tlodi tanwydd' i roi cyngor ymarferol ond hanfodol am gadw'n gynnes ac yn iach y gaeaf hwn i bobl hŷn sydd mewn mwyaf o risg."

Ychwanegodd Chris: "Gyda'r gaeaf ar ein gwarthaf, mae angen i lywodraethau ailgydbwyso ffocws polisi i sicrhau fod mynd i'r afael â thlodi tanwydd ac atal marwolaethau ychwanegol ymhlith pobl hŷn yn ystod y gaeaf yn cael cymaint o sylw â gostwng allyriadau CO2.

"Er y bu nifer o gynlluniau grant llwyddiannus i helpu gwneud gwelliannau ynni i gartrefi pobl, caiff llawer o'r cynlluniau eu gyrru ar dargedau ond nid ydynt bob amser yn cyrraedd y rhai sydd yn yr angen mwyaf. Mae pobl ar eu colled. Nid yw'r system bresennol yn gweithio oherwydd ein bod yn dal i fod â phobl sy'n marw yn y gaeaf oherwydd tlodi tanwydd, na fyddai'n marw mewn misoedd eraill o'r flwyddyn.

"Mae asiantaethau Gofal a Thrwsio, cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol wedi gwneud gwaith gwych gyda chwmnïau ynni ond mae angen gwneud mwy ar gyfer pobl hŷn ar incwm isel sy'n berchen eu cartrefi. Mae angen mwy o waith i ganfod y bobl hyn ac nid yw hynny mor ddeniadol i gwmnïau ynni sydd â thargedau cyfreithiol ar ostwng allyriadau carbon, felly maent wedi targedu cynlluniau arbed ynni yn ddaearyddol."

Yn 2013/14 rhoddodd asiantaethau Gofal a Thrwsio gymorth yn ymwneud ag ynni i bron, 2,000 o bobl hŷn a chafodd 1,000 arall o bobl hŷn gymorth gyda phroblemau'n ymwneud â thai llaith.

Mae Care & Repair Cymru hefyd yn annog pensiynwyr mwy cyfoethog nad ydynt angen eu Taliad Tywydd Oer, taliad o rhwng £100 a £300 a gaiff ei dalu'n awtomatig i bensiynwyr bob blwyddyn, i'w gyfrannu i Gofal a Thrwsio i gynorthwyo'r rhai sydd mewn angen gwirioneddol.

Meddai Chris Jones: "Mae hefyd lawer o ddryswch ymysg pobl hŷn am ba help a chymorth sydd ar gael. Dyna pam ein bod yn annog pobl sy'n poeni am gadw'n gynnes y gaeaf hwn i ffonio eu hasiantaeth leol Gofal a Thrwsio ar 0300 111 3333".

Astudiaeth achos

Mae Mrs Valerie Howe yn byw yng Nghaerdydd. Mae ei hincwm yn isel ac nid oes ganddi unrhyw arian wrth gefn. Cafodd ei chyfeirio at Gofal a Thrwsio Caerdydd gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni gan ei bod yn ei chael yn anodd cadw'n gynnes yn ei chartref. Roedd yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni/Nyth wedi methu cynnig cymorth iddi. Mae Mrs Howe yn dioddef o iselder, arthritis, nam ar ei golwg ac mae wedi cael nifer o godymau.

Roedd ei boeler yn hen iawn a threfnodd Beatrice Roberts, gweithiwr achos Gofal a Thrwsio, i osod boeler newydd drwy grant ECO o £2,500. Cafodd Gofal a Thrwsio hefyd arian drwy gynllun argyfwng Health through Warmth Npower a ffynonellau elusennol eraill i osod dau reiddiadur ychwanegol yng nghartref Mrs Howe ar gost o £575. Nid oedd unrhyw wres yn ei chegin a'r cyntedd ac roedd ei ffenestri yn 20 mlwydd oed, felly trefnodd Gofal a Thrwsio i ffenestri newydd gael eu gosod gyda grant o £5,000 gan y Cyngor. Cafodd Mrs Howe hefyd ei chyfeirio gan Gofal a Thrwsio at therapydd galwedigaethol gan ei bod yn ei chael yn anodd mynd i mewn ac allan o'r bath. Cafwyd Grant Cyfleusterau i'r Anabl hefyd i dalu am ystafell ymolchi newydd gyda chawod cerdded i mewn ynghyd â rheiddiadur newydd yn yr ystafell ymolchi ar gost o £5,000. Cynhaliodd Gofal a Thrwsio hefyd wiriad diogelwch tân a gosod dau larwm mwg.

Mae Mrs Howe yn llawer cynhesach a mwy cysurus yn ei chartref oherwydd y rheiddiaduron, ffenestri a boeler newydd ac mae ei biliau tanwydd yn is. Gall yn awr ymolchi'n ddiogel ei hunan oherwydd ystafell ymolchi newydd sy'n gweddu i'w hanghenion. Mae'n llai tebygol o gael codwm yn yr ystafell ymolchi a hefyd yn fwy diogel yn ei chartref oherwydd y larymau mwg.

Mae Beatrice Roberts, y gweithiwr achos, yn credu y gall iechyd ac iselder Mrs Howe fod wedi gwaethygu oherwydd ei bod yn oer drwy'r amser yn ei chartref, yn poeni am filiau tanwydd ac yn poeni am y gwaith cynnal a chadw oedd ei angen i'w chartref pe na byddai Gofal a Thrwsio wedi ymyrryd. Roedd hefyd mewn risg o syrthio yn ei chartref ac roedd risg i'w diogelwch gan nad oedd ganddi unrhyw larymau mwg.