Jump to content

24 Gorffennaf 2026

Hwb o £17 miliwn ar gyfer uwchraddio ynni cartref

Hwb o £17 miliwn ar gyfer uwchraddio ynni cartref

Hwb o £17 miliwn ar gyfer uwchraddio ynni cartref

Ddydd Llun 20 Gorffennaf cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad o £17 miliwn mewn uwchraddio ynni cartrefi, sy’n anelu i dorri biliau ynni aelwydydd a mynd i’r afael â thlodi tanwydd ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys £8 miliwn ar gyfer y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio i ôl-osod mesurau effeithiolrwydd ynni mewn cartrefi cymdeithasol, yn ogystal â £4 miliwn ar gyfer gweithgareddau newydd seiliedig ar ardal.

Mewn ymateb i’r cyhoeddiad dywedodd Elly Lock, Pennaeth Polisi ac Ymchwil Cartrefi Cymunedol Cymru:

“Mae buddsoddi mewn cartrefi gwell yn golygu biliau ynni is, gwell iechyd ac economi fwy gwydn. Gwyddom fod y cynnydd mewn biliau’n taro’n galed ar breswylwyr cymdeithasau tai. Mae’r cyllid ychwanegol yma ar gyfer uwchraddio ynni cartrefi yn newyddion i’w groesawu.

“I sicrhau fod y buddsoddiad yn ymestyn ymhell ac yn eang, rydym yn gofyn i’r Llywodraeth adolygu’r gofynion ar landlordiaid i fuddsoddi yn eu cartrefi, fel y gallant roi blaenoriaeth effeithlon i fuddsoddi yn y meysydd hynny sydd bwysicaf i denantiaid. Dylai hyn roi blaenoriaeth i dymheredd iach dan do drwy gydol y flwyddyn drwy fesurau effeithiol o ran ynni gyda chostau rhedeg isel.”

Darllenwch fwy yma