Jump to content

24 Gorffennaf 2020

Heriau mawr, llawer o ryng-ddibyniaeth a gwahanol ddull i ddatblygu datrysiadau

Heriau mawr, llawer o ryng-ddibyniaeth a gwahanol ddull i ddatblygu datrysiadau
Mewn blog diweddar ar gyfer Cartref, amlinellodd Clarissa Corbisiero ein ‘rhaglen Dylanwadu ar gyfer Dyfodol Gwell’. [hyperlink]


Mae’r cyfnod cyntaf newydd ddod i ben a bu’n ychydig wythnosau gwyllt yn ymchwilio ein gwerthoedd a’n gweledigaeth a mynd i’r afael gyda meddalwedd bwrdd gwyn newydd mewn chwe sesiwn rithiol gyda bron 100 o staff, tenantiaid ac aelodau bwrdd 33 o gymdeithasau tai.


Fe wnaethom gasglu sylwadau gwych am yr heriau sy’n ein hwynebu, y cyfan wedi eu gweld drwy lens Covid-19, a chlywed gan y mynychwyr am eu huchelgeisiau ar gyfer yr heriau hyn.


Ar ôl gwneud yr ymarferiad hwn ym mis Ionawr, roedd yn ddiddorol clywed sut mae blaenoriaethau pobl wedi newid, sut y daeth heriau newydd i’r amlwg fel canlyniad i Covid-19 a sut y cafodd eraill eu chwyddo gan y pandemig. Bu trafod a dadlau am yr heriau ac yn dilyn proses fireinio, a dau weithdy gyda phrif swyddogion gweithredol ac aelodau bwrdd, cafodd y pump dilynol eu blaenoriaethu:


Newid hinsawdd: Gwneud cartrefi yn fwy effeithiol o ran ynni


Pan siaradwn am wneud cartrefi yn fwy effeithiol o ran ynni, rydym fel arfer yn canolbwyntio ar y costau cysylltiedig, diffyg cadwyn gyflenwi barod, amserlenni tyn a phrinder sgiliau arbenigol i wneud y gwaith. Roedd ffocws y trafodaethau yn ystod y cyfnod cyntaf ar yr effaith ar denantiaid, gyda’r mynychwyr yn gofyn: “Sut fedrwn ni weithio gyda thenantiaid i ffurfio partneriaeth wirioneddol i wneud eu cartrefi yn fwy effeithiol o ran ynni?” Partneriaeth a fyddai nid yn unig yn gostwng ein ôl-troed carbon, ond yn rhoi buddion i denantiaid drwy gartrefi mwy cysurus.


Dod â digartrefedd i ben


Dros y 15 wythnos diwethaf, mae llywodraeth leol a llywodraeth ganolog wedi gweithio gyda darparwyr ar draws y maes digartrefedd a gwasanaethau tai i letya dros 900 o bobl – gan fwy neu lai ddileu diweithdra stryd yng Nghymru. Hyd yn oed cyn Covid-19, roeddem yn gweld newid sylfaenol yn yr ymagwedd at ddarparu gwasanaeth digartrefedd, i ffwrdd o hostelau a llety argyfwng tuag at ailgartrefu cyflym hirdymor a Tai yn Gyntaf.


Pa ddewisiadau sydd gan bobl sy’n canfod eu hunain yn y sefyllfa yma? A ydynt yn cael unrhyw ddewis am lety, mewn ardaloedd y maent yn gyfarwydd â nhw? Beth sy’n digwydd os nad oes cymorth ar gael yn yr ardal honno? A yw pobl ddigartref yn cael eu cosbi os ydynt yn gwrthod cynigion llety ‘anaddas’?


Cymunedau cysylltiedig ac ariannol gadarn


Mae’r terfysg economaidd sy’n debygol o gael ei achosi gan bandemig Covid-19, ynghyd â’r newidiadau parhaus i’r system llesiant, yn golygu ei bod yn bwysicach nag erioed i gefnogi cymunedau i fod mor ariannol gadarn ag sy’n bosibl yn bwysicach nag erioed.


Caiff cysylltedd gwael yn aml ei weld fel her sy’n wynebu rhannau gwledig o Gymru, ond mae pandemig Covid-19 wedi rhoi ffocws mawr i’r angen am y mynediad cywir i ddata a gwybodaeth ddigidol ar gyfer bywyd bob dydd; gwaith, addysg, mynediad i gyngor ar iechyd, budd-daliadau lles, chwilio am swydd a chysylltiadau cymdeithasol i enwi ond rhai.


Uno’r dotiau – iechyd, tai a gofal cymdeithasol.


Mae’r system iechyd a llesiant yn gymhleth ac yn anodd hwylio drwyddi, yn arbennig ar gyfer y rhai sy’n fregus neu mewn iechyd gwael. Mae ymddiriedaeth mewn systemau ac mewn sefydliadau yn nodwedd bwysig o ganfod llwybr drwy system mor gymhleth a rhyng-gysylltiedig.


Sut mae cynllunio lleoedd sy’n gyfeillgar i oedran ac yn hyblyg, mannau lle byddai pobl yn dewis byw ynddynt? Sut gallwn ni lunio gwasanaethau o amgylch pobl?


Adferiad economaidd – adeiladu lleoedd llewyrchus


Caiff economi cryf ei adeiladu ar lwyddiant casgliad o fannau lleol cryf. Nid yw llawer o ardaloedd wedi adfer o ddirwasgiad 2008 hyd yma ac mae llawer yn dal i ddioddef canlyniadau economaidd newidiadau marchnad o ddegawdau cyn hynny.


Nid yw’r dull traddodiadol o ddenu mewnfuddsoddi o gwmnïau rhyngwladol mawr wedi rhoi gwasanaeth teilwng i lawer o’n cymunedau. Sut mae sicrhau fod swyddi diogel ‘da’, ar gyflog da yn y cymunedau hym? Sut mae cefnogi adeiladu cyfoeth mewn cymunedau lle mae pobl leol yn gyfrifol am ddatblygiad economaidd lleol sy’n cadw arian yn yr ardal leol?


Beth sydd nesaf?


Mae’n glir o drafodaethau bod rhyng-ddibyniaeth glir rhwng yr holl themâu hyn. Er bod ein haelodau yn amlwg yn gweld hyn fel cyfle i leoli cymdeithasau tai fel rhan o’r datrysiad i’r heriau uchod sydd wedi hen ymgaledu, mae hefyd yn glir nad yw’r atebion gennym. Gweithio partneriaeth i ddeall y broblem yn llawn a chyd-ddatblygu datrysiadau fydd ffocws yr ail gyfnod sy’n cychwyn yr wythnos hon.


Sut y gallwch helpu?


Rydym angen i chi wneud dau beth:


Archebu lle ar Hac Heriau. ‘Hac’ rhithiol cyflym, 90 munud o’r syniad her yr ydych yn fwyaf angerddol amdanom, mewn partneriaeth gydag arloesedd ac arbenigwyr gwella Simply Do.


P’un ai ydych yn aelod o staff cymdeithas tai, yn denant, arbenigwr yn y maes, rydym angen i chi gymryd rhan!


CLICIWCH I ARCHEBU EICH LLE – Adferiad Economaidd – Adeiladu Lleoedd Llewyrchus, dydd Llun 3 Awst, 11.30am-1.00pm


CLICIWCH I ARCHEBU EICH LLE – Cymunedau Cysylltiedig ac Ariannol Gadarn, dydd Mawrth 4 Awst, 2.00pm-3.30pm


CLICIWCH I ARCHEBU EICH LLE - Dod â Digartrefedd i Ben, dydd Mercher, 5 Awst, 2.00pm-3.30pm


CLICIWCH I ARCHEBU EICH LLE – Uno’r Dotiau: Iechyd, Tai a Gofal Cymdeithasol, dydd Iau 6 Awst, 10.00am-11.30am


CLICIWCH I ARCHEBU EICH LLE - Newid Hinsawdd: Gwneud Cartrefi yn fwy Effeithiol o Ran Ynni, dydd Gwener 7 Awst, 2.00pm-3.30pm


Gweld Syniadau’r Her – Rydym wedi distyllu oriau o drafodaeth a llwyth o nodiadau gludiog i’r pump syniad her. Yn ogystal â gosod uchelgais glir, mae crynodeb her o bwyntiau siarad yr egwyddor fydd yn rhoi’r man dechrau ar gyfer Gweithdai Hac Heriau.


CLICIWCH YMA I WELD y syniadau her a rhoi eich safbwynt personol a phroffesiynol eich hun. Bydd angen i chi greu cyfrif i weld a rhoi sylwadau.


Ydynt, maent yn heriau systemig mawr gyda llawer o ryng-ddibyniaeth, ond nid yw’r holl atebion gan unrhyw un sefydliad. Edrychwn ymlaen at ddatblygu dull gweithredu gwahanol gyda chynifer o bobl ag sydd modd i arwain i newid real a pharhaus.


Mae mwy o wybodaeth ar y rhaglen ar gael yma.