Jump to content

02 Medi 2016

Her Prentisiaid Cymru 2016

Her Prentisiaid Cymru
Cynhadledd Flynyddol 2016
1 a 2 Rhagfyr 2016
Stadiwm Principality, Caerdydd

Fe wnaeth Her Prentisiaid Cymru greu cyffro go iawn yn ein Cynhadledd Flynyddol y llynedd a rhoi llais i brentisiaid y sector. Gan adeiladu ar y llwyddiant hwn, byddwn yn cynnal hyn unwaith eto a gofynnwn am enwebiadau gan eich sefydliad. Cliciwch yma am ragor o fanylion am yr her ynghyd â'r ffurflen enwebu

Cynhelir y Gynhadledd dros ddau ddiwrnod – 1 a 2 Rhagfyr yn Stadiwm Principality, Caerdydd. Bydd manylion pellach am siaradwyr a sut i archebu ar gael o fewn yr wythnos nesaf.

Edrychwn ymlaen at dderbyn enwebiadau a her prentisiaid lwyddiannus arall.

Mae croeso i chi gysylltu â Borbala Martos ar 029 2067 4805 neu drwy e-bost borbala-martos@chcymru.org.uk os hoffech fwy o wybodaeth.