Jump to content

10 Mehefin 2015

Helpwch ni i letya talentau pobl ifanc yn yr Eisteddfod Genedlaethol

I ddathlu'r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhowys eleni, mae Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) yn lansio cystadleuaeth i ganfod egin fardd a all greu cerdd fuddugol.

Mae CHC, corff cynrychioli cymdeithasau tai Cymru, yn dymuno i blant o ysgolion ledled Powys gymryd rhan yn y gystadleuaeth ac ysgrifennu cerdd ar thema -
'Beth mae cartref yn ei olygu i chi?'

Wrth lansio'r gystadleuaeth dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd y Grŵp: "Mae cael cartref yn angen sylfaenol i ni gyd, ond gall 'cartref' olygu cynifer o bethau gwahanol. Nod ein cystadleuaeth yw rhoi cyfle i feirdd ifanc ddefnyddio eu creadigrwydd a chrynhoi yn eu geiriau eu hunain yn union beth yw ystyr 'cartef' iddyn nhw. Mae barddoniaeth yn bersonol ond mae'n dal i ganiatau rhannu profiadau. Mae'r gystadleuaeth yma'n gyfle gwych i blant ysgol ddefnyddio eu dychymyg i ddysgu mwy amdanynt eu hunain a'u galluoedd. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddarllen y cynigion."

Caiff y beirdd buddugol a'u cynigion eu gwahodd i seremoni wobrwyo arbennig yn stondin CHC yn yr Eisteddfod ar 6 Awst. Caiff eu cerddi eu harddangos mewn lle amlwg a'u hadrodd gan westai arbennig.

Y Rheolau:

  • Mae cystadleuaeth farddoniaeth CHC ar agor i bob plentyn ysgol o ardal Cyngor Sir Powys.
  • Mae'n rhaid i'r holl gerddi fod ar thema: "Beth mae cartref yn ei olygu i chi?"
  • Mae dau gategori oedran yn y gystadleuaeth - 6-8 oed a 9-11 oed.
  • Ni ddylai cerddi fod yn fwy na 250 gair a gallant fod yn Gymraeg neu Saesneg.
  • Gofynnir i chi gynnwys llun o'r bardd gyda phob cynnig, ynghyd â'u henw llawn, oedran ac enw eu hysgol.
  • Dewisir y cerddi buddugol o bob grŵp oedran gan banel o feirniaid gwadd.
  • Dyddiad cau'r gystadleuaeth yw 17 Gorffennaf, a chyhoeddir rhestr fer o bum cynnig ym mhob categori ar 21 Gorffennaf.
  • Cyhoeddir enwau prif enillwyr y gystadleuaeth yn yr Eisteddfod ar 6 Awst.

Dylid anfon pob cais at communications@chcymru.org.uk gyda 'Cystadleuaeth Farddoniaeth CHC' yn y llinell destun neu drwy'r post at 'Cystadleuaeth Farddoniaeth CHC', Cartrefi Cymunedol Cymru, 2 Ocean Way, Caerdydd, CF24 5TG.