Jump to content

06 Awst 2018

Gwobr Creu Creadigrwydd Pat Chown 2018

Deunaw mlynedd yn ôl, sefydlodd Cartrefi Cymunedol Cymru gynllun Gwobr i gydnabod arloesedd tai er cof am berson arbennig - Pat Chown. Rhoddodd Pat ran helaeth o'i bywyd i helpu eraill a threuliodd lawer o'i gyrfa yn helpu i ddiwallu anghenion tai pobl yng Nghymru.

Fel ffordd o gofio am Pat, ei chyfraniad i'r sector tai a'i hymdrechion cyson i chwilio am ffyrdd gwell o wneud pethau, mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn gwahodd cynigion ar gyfer Gwobr Creu Creadigrwydd.

Nod y Wobr yw cydnabod arloesedd:

Ffyrdd newydd i ymateb i faterion dydd-i-ddydd.
Syniadau gwirioneddol newydd am ddelio gyda phroblemau cyffredin.
Ffordd llawer rhwyddach o drin hen broblem.

Bydd beirniaid y Wobr yn edrych am gynigion sy'n dangos fod y prosiect wedi torri tir newydd.

Dim ond prosiectau a sefydlwyd ddim mwy na ddwy flynedd yn ôl sy’n gymwys i wneud cais.

Mae enillwyr blynyddoedd blaenorol yn cynnwys:

Newydd
Tai Siarter
YMCA Caerdydd
Cyrenians/Caer Las Cymru
Tai Cymunedol Bron Afon
GrEW
Solas

Bydd yr enillydd yn derbyn gwobr, cyfraniad o £1,000 i'w dewis o elusen seiliedig yng Nghymru, a chyhoeddir enw'r enillydd yng Nghynhadledd Tai Fawr CHC ym mis Hydref.

I gynnig am Wobr eleni, llenwch a llofnodi'r ffurflen gais a'i hanfon at julia-sorribes@chcymru.org.uk erbyn 9am dydd Gwener 7 Medi 2018. Llunnir rhestr fer o 3 cynnig gorau a byddwn wedyn yn cysylltu gyda'r sector i ofyn am help wrth ddewis yr enillydd terfynol.