Jump to content

18 Awst 2016

Gwobr Creu Creadigrwydd Pat Chown 2016

Un mlynedd ar bymtheg yn ôl, sefydlodd Cartrefi Cymunedol Cymru gynllun Gwobr i gydnabod arloesedd tai er cof am berson arbennig - Pat Chown. Rhoddodd Pat ran helaeth o'i bywyd i helpu eraill a threuliodd lawer o'i gyrfa yn helpu i ddiwallu anghenion tai pobl yng Nghymru.

Fel ffordd o gofio am Pat, ei chyfraniad i'r sector tai a'i hymdrechion cyson i chwilio am ffyrdd gwell o wneud pethau, mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn gwahodd cynigion ar gyfer Gwobr Creu Creadigrwydd.

Nod y Wobr yw cydnabod arloesedd:

  • Ffyrdd newydd i ymateb i faterion dydd-i-ddydd.
  • Syniadau gwirioneddol newydd am ddelio gyda phroblemau cyffredin.
  • Ffordd llawer rhwyddach o drin hen broblem.

Bydd beirniaid y Wobr yn edrych am gynigion sy'n dangos fod y prosiect wedi torri tir newydd.

Bydd y wobr yn derbyn gwobr, cyfraniad o £1,000 i'w dewis o elusen seiliedig yng Nghymru, a chyhoeddir enw'r enillydd yn Symposiwm CHC yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr.

Gweler yma am fwy o wybodaeth ac i lawrlwytho ffurflen gais.