Jump to content

03 Gorffennaf 2018

Gwobr Creu Creadigrwydd 2018

Gwobr Creu Creadigrwydd 2018
Yn ôl yn y flwyddyn 2000, sefydlodd Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) y Wobr Creu Creadigrwydd er cof am Pat Chown.


Nod y Wobr yw cydnabod arloesedd sy'n cynnwys:
  • Ffyrdd newydd o ymateb i faterion dydd-i-ddydd.

  • Syniadau newydd am wella ac adfywio cymunedau.

  • Ffyrdd gwahanol i helpu pobl i wella a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w bywydau.

Sut y caiff y gystadleuaeth ei beirniadu?


Mae beirniaid y Wobr yn edrych am geisiadau sy'n dangos fod y prosiect wedi torri tir newydd ac wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol go iawn i fywydau pobl. Yn ogystal â'r Wobr a'r gydnabyddiaeth gadarnhaol a aiff â hynny, gall yr enillydd hefyd enwebu elusen seiliedig yng Nghymru i dderbyn cyfraniad o £1,000.


Y prif bwyslais i'r beirniaid wrth asesu ceisiadau yw os yw'r prosiect yn 'Creu Creadigrwydd' a hefyd:
  • Sut mae'r prosiect yn helpu pobl

  • Cael nodau a thargedau clir

  • Manteisio i'r eithaf ar yr adnoddau sydd ar gael

  • Annog gweithio partneriaeth a gweithredu'n effeithlon

  • A allai eraill gynnal prosiect tebyg?

  • "Naws" cyffredinol y prosiect





Cynllun Rooms4U Cymdeithas Tai Newydd enillodd y Wobr yn 2017. Aeth y prosiect ati i fynd i'r afael â mater brys bryd hynny y cap ar fudd-dal tai oedd i ddod i rym o fis Ebrill 2019 ar gyfer pobl dan 35. Drwy sefydlu dull gweithredu strwythuredig ac eang ar gyfer gweithredu rhannu llety, cawsant syniad a allai wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl iau.


Er bod bygythiad uniongyrchol cap ar fudd-daliadau wedi cilio, mae egwyddorion Rooms4U yn dal i fod yn berthnasol iawn wrth edrych ar wahanol ffyrdd o helpu mynd i'r afael â'r cyfyngiadau sy'n wynebu pobl iau wrth gael mynediad i gartrefi ansawdd da a fforddiadwy.


Blas o'r cynigion dros y blynyddoedd


Derbyniwyd cannoedd o gynigion ers sefydlu'r wobr, yn cynnwys:
  • Gwahanol ddull o ddarparu ystod o wasanaethau'n cynnwys cyngor, cymorth a llety ar gyfer menywod a phlant oedd wedi wynebu trais domestig yn seiliedig ar ymgynghori gyda phobl eraill oedd wedi dioddef cam-driniaeth o'r fath yn y gorffennol. Fe wnaeth defnyddio'r wybodaeth a gafwyd helpu i newid y ffordd y darparwyd gwasanaethau i ddod yn fwy sensitif a hyblyg wrth gyflawni amgylchiadau personol a theimladau unigolion.

  • Hyffforddiant (gydag achrediad ffurfiol) ar gyfer unigolion a fu'n ddigartref. Wedyn aethant i ysgolion i esbonio, yn agored ac yn rymus o'u profiadau personol, ar eu cyfer nhw neu bobl yr oeddent wedi'u adnabod, sut y gall cyffuriau andwyo eich bywyd a sut i wynebu mewn ffyrdd ymarferol y problemau a achoswyd.

  • Prosiect ymarferol ac wedi'i gynllunio a'i ystyried yn ofalus drwy ddefnyddio dull partneriaeth ar draws sefydliadau i drin materion symudedd ar gyfer pobl gydag anabledd. Roedd defnyddwyr gwasanaeth yn gynghorwyr allweddol wrth gynllunio'r addasiadau a newidiadau eraill fel eu bod yn wir yn gweithio i bobl go iawn yn y byd go iawn yn hytrach na bod yn seiliedig ar 'arfer da' damcaniaethol.

  • Gwasanaeth 'tacluso' sy'n mynd i'r afael â'r problemau lluosog sydd wedi wynebu rhai pobl a'u helpu i newid a gwella eu bywydau mewn llawer o ffyrdd cadarnhaol





Rhoddodd Pat ran fawr o'i bywyd, yn ei ffordd egnïol, llawen a hwyliog ei hun, i helpu pobl mewn llawer o ffyrdd i wella eu bywydau a chyflawni eu potensial. Mae'r wobr yn helpu i gadw atgofion am Pat yn fyw ac yn dathlu ei chyfraniad i'r sector tai a meysydd eraill ym mywyd Cymru ynghyd â'i chwiliad cyson am ffyrdd gwell o wneud pethau er mwyn gwneud bywydau pobl yn well a hapusach


Drosodd atoch chi


Mae'r gweithgareddau uchod yn amrywiol ac mae hynny'n greiddiol i'r wobr. Mae ynglŷn â gweld sut mae'r gweithgaredd gwerth chweil yn dod i siâp a helpu pobl mewn ffyrdd ymarferol go iawn. Mae llawer o bethau gwych yn digwydd yng Nghymru. Rydyn ni eisiau dathlu'r gweithgareddau hynny.


Peidiwch oedi, gwnewch gynnig am Wobr Creu Creadigrwydd eleni. Caiff ei werthfawrogi, bydd yn dathlu'r hyn yr ydych wedi'i gyflawni a, pwy â ŵyr, efallai y byddwch yn ennill! (A pheidiwch anghofio y gallwch hefyd enwebu elusen am gyfraniad o £1,000).


https://chcymru.org.uk/uploads/resources_welsh/Pat-Chown-2018_CYM.pdf