Jump to content

06 Mawrth 2018

Gwersi Llywodraethiant yng Nghymdeithas Tai Teulu


Mae Karl George MBE, rheolydd gyfarwyddydd y Fforwm Llywodraethiant, yn awgrymu 'gellir fel arfer olrhain methiant ar unrhyw lefel mewn sefydliad i lywodraethiant ac arweinyddiaeth y sefydliad hwnnw'.


Bu llawer o glebran yn y sector Tai yng Nghymru mewn blynyddoedd diweddar am yr 'anawsterau' yng Nghymdeithas Tai Teulu (FHA). Gan ymuno â'r Gymdeithas ar adeg o argyfwng ym mis Tachwedd 2014, roedd ffocws y sylw a'r egni ar 'reoli argyfwng' yn uniongyrchol - ond beth yn union oedd hynny'n ei olygu?


Bron dair blynedd a hanner yn ddiweddarach, wrth i ni ddod allan y pen arall i dwnnel hir, tywyll, mae gennym gyfle da i ystyried beth aeth o'i le, beth gafodd ei wneud i droi pethau o amgylch a phwy fu'n ymwneud â'r broses honno. Nid yw hyn yn anghofio meddwl am beth nesaf i'r FHA.


Yn ei adroddiad ar Grŵp Tai Cosmopolitan, dywedodd Altair Consultancy 'po fwyaf mae Prif Swyddog Gweithredol yn ei le, y mwyaf tebygol ydynt o gael eu hystyried fel perchennog gwerthoedd y Gymdeithas'.


Wrth ddarllen a meddwl ar y datganiad hwn a datganiad Karl (uchod), roedd yn taro tant gyda fy mhrofiad o'r hyn aeth o'i le yn FHA. Rydyn ni'n sefydliad gwahanol iawn heddiw, ond cafodd y diwylliant a'r ymddygiad oedd yn amlwg nifer o flynyddoedd yn ôl eu derbyn a'u goddef er nad oeddent yn dda i'r sefydliad.


Mae gennym bobl wych yn gwneud pethau rhyfeddol sy'n gwneud gwahaniaeth mor anhygoel i fywydau a chymunedau. Fodd bynnag, ar lefel gorfforaethol, roedd peli'n cael eu gollwng, gan arwain at y methiannau ac o fewn trwch blewyn at dranc cymdeithas hir-sefydledig. Sut y gallai rhywbeth fel hyn ddigwydd? Digwyddodd oherwydd methiant llywodraethiant ac arweinyddiaeth.


Nid dim ond perfformiad ariannol oedd ffocws ein gwaith yn ystod y 'cyfnod argyfwng' ond, yn hollbwysig, lywodraethiant ac arweinyddiaeth. Dechreuodd hyn gyda phenodi Prif Swyddog Gweithredol newydd, bwrdd newydd ac adolygu ein Gweledigaeth, Cenhadaeth a Gwerthoedd. Fe wnaeth hyn ein galluogi i drin 'perchnogaeth o werthoedd y Gymdeithas'. Wrth i ni symud ymaith o 'ddiwylliant 'gorchymyn a rheoli', caiff arweinyddiaeth ei ymwreiddio ym mhob rhan o'r Gymdeithas. Mae'r Bwrdd yn ôl yn ei briod rôl o sicrhau y caiff y sefydliad ei reoli'n effeithlon ac effeithiol gyda'r systemau, mesurau rheoli a sicrwydd priodol. Y Bwrdd yw ceidwad pennaf ein gwerthoedd.


Cafodd ein cynnydd ei gydnabod yn y Dyfarniad Rheoleiddiol gwell. Mae'r dyfarniad hwnnw (a ninnau fel sefydliad) yn cydnabod fod mwy i'w wneud. Nid yw'n taith wedi gorffen, newydd ddechrau mae hi.

Karen Dusgate
Prif Swyddog Gweithredol, Cymdeithas Tai Teulu (Cymru).
www.twitter.com/KDusgate