Jump to content

03 Mehefin 2015

Gweinidog yn gweithredu i ddiogelu tai cymdeithasol Cymru

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru heddiw ei bod yn gweithredu ar yr Hawl i Brynu er mwyn diogelu tai cymdeithasol Cymru, yn dilyn ymgynghoriad a ddangosodd gefnogaeth i’r cynlluniau.

Wrth ymateb i'r cadarnhad o fwriad Llywodraeth Cymru i ddileu'r Hawl i Brynu, dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:

"Rydym yn croesawu’r newyddion gan Lywodraeth Cymru eu bod wedi gwrando ar bryderon a'u bod yn cadarnhau y bwriadant haneri'r disgownt a gynigir yn syth ac yn cynllunio i ddileu'r Hawl i Brynu. Drwy wneud hynny, maent yn gweithredu i ddiogelu stoc werthfawr Cymru o dai cymdeithasol a helpu i fynd i'r afael â'n hargyfwng tai."

Daw cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn dilyn ymgynghoriad ar y cynnig i ddileu'r Hawl i Brynu. Dangosodd sylwadau a phryderon gan awdurdodau lleol, cymdeithasau tai - ac yn bwysicaf oll - denantiaid tai cymdeithasol, fod 76% yn cefnogi lleihau'r gostyngiad uchaf a ganiateir ar bris gwerthu eiddo o £16,000 i £8,000. Roedd 63% o blaid datblygu deddfwriaeth i ddirwyn yr Hawl i Brynu i ben. Credai cynifer â 94% o ymatebwyr y dylai Llywodraeth Cymru helpu pobl pan nad yw'r farchnad tai yn gallu cwrdd â'u hanghenion a theimlai tri chwarter yr ymatebwyr y dylid gweithredu i ddiogelu stoc tai cymdeithasol Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar unwaith i ostwng y disgownt yr haf hwn ac mae wedi dechrau llunio deddfwriaeth er mwyn dirwyn y cynllun Hawl i Brynu i ben i'w ystyried gan y Llywodraeth yn ystod tymor nesaf y Cynulliad.

Mae'r Hawl i Brynu a'r Hawl i Gaffael yn caniatáu i denantiaid tai cymdeithasol cymwys i brynu eu tŷ cyngor neu gymdeithas tai ar ddisgownt o hyd at £16,000. Cafodd 138,548 o gartrefi eisoes eu gwerthu a'u colli i'r sector tai yng Nghymru ers cyflwyno'r Hawl i Brynu yn 1981.