Jump to content

08 Hydref 2018

Gwarcheidwaid Glasbury

Gwarcheidwaid Glasbury
Bydd Jon Adams, Swyddog Datblygu Prosiect Parc Llesiant, Bronllys yn ymuno â ni fel siaradwr yn y Gynhadledd Tai Fawr, fel rhan o weithdy ar Fentrau Cydweithredol Tai Gwledig. Mae'n dweud wrthym beth sydd ar y gweill.


Er ein bod i gyd yn arch arwyr yn ein ffordd ein hunain, nid wyf go iawn yn brwydro i achub y byd rhag dyrnaid o ofod-ladron. Yn lle hynny, rwy'n teimlo mod i'n rhoi bywyd yn ôl i'r hyn a fyddai fel arall yn adeilad mawr gwag yng nghanol cymuned wledig fach, ac ar yr yr un pryd yn rhoi mynediad i lety fforddiadwy i bobl sy'n gweithio i ffwrdd.


Gall fod yn anodd iawn i weithwyr, pobl ifanc a phobl ar incwm isel ddod o hyd i lety fforddiadwy da mewn ardaloedd gwledig. Gall cynlluniau Gwarcheidwaid Eiddo lle caiff adeiladau gwag eu rhoi'n ôl i ddefnydd pan fyddant yn aros i gael eu gwerthu neu eu haddasu fod yn gyfle cost-effeithlon i berchnogion warchod eu heiddo, gostwng risg y bydd adeilad yn dirywio a, lle gallai'r adeiladau hyn fod â phresenoldeb cryf mewn trefi bach neu bentrefi, ddod â gweithwyr i mewn neu gadw cysylltiad rhwng gweithwyr a phobl ifanc â'u cymuned leol.


Unwaith yn ganolfan gweithgareddau agored Bwrdeistref Redbridge, mae Tŷ Glasbury mewn gerddi braf ar lannau'r afon Gwy ac mae'n darparu llety fforddiadwy da i 13 o bobl sy'n gweithio yn yr ardal leol.


Efallai na fydd gwerth cost isel model busnes Gwarcheidwaid yn achub y byd rhag ein hargyfwng tai, ond gall warchod adeiladau gwag yn ein cymunedau gwledig a rhoi'r datrysiadau byw hyblyg a fforddiadwy mae pobl eu hangen. Mae tai cydweithredol oes fer yn fodel a awgrymir a allai wneud hyn yn opsiwn mwy cadarn i adrannau mawr o'r gymdeithas gael mynediad iddynt.


Mae rhaglen lawn y Gynhadledd Tai Fawr ar gael yma a gallwch archebu eich tocynnau yma.